|
|
|
|
Coedwigoedd Arbennig IawnGan fod nifer o sefydliadau eraill yn ymwneud yn benodol â choed a choetiroedd, mae'r Ymddiriedolaeth yn y llythyr newyddion hwn wedi tueddu i ganolbwyntio ar ei gwaith o adfer a chreu cynefinoedd eraill. Fodd bynnag, mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig cyrsiau ar greu a rheoli coetiroedd yn seiliedig ar ei phrofiad ei hun, ac o ganlyniad mae nifer o dirfeddianwyr wedi'u hysbrydoli i blannu nifer o goed ar hyd ein tirwedd dlawd lle mae eu hangen yn fawr. Un peth sy'n peri syndod o bosibl yw bod y cyrsiau'n dechrau bob tro trwy ystyried pam byddai rhywun am greu coedwig yn y lle cyntaf, yn ogystal â ble yw'r lle gorau i'w phlannu. Y cwestiwn allweddol a ofynnwyd yn wreiddiol yn Fferm Denmarc oedd: “Ai plannu coetir yma fydd y cyfraniad mwyaf priodol i fioamrywiaeth ac i'r dirwedd?” Y rheswm am hyn, yn rhyfedd iawn, oedd bod nifer o gynlluniau eraill ar y pryd yn cael eu plannu ar ddarnau o dir a oedd yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt. I'r gwrthwyneb, roedd y teulu Taylor yn ystyried mai bioamrywiaeth y safle cyfan oedd y peth pwysicaf. Roedd agweddau eraill yn eilradd yn hyn o beth ac yn darparu amcanion atodol ychwanegol wrth ystyried dibenion plannu coed: |
Plannu coedlannau yn 1988
Plannu coedlannau yn 1995
Chwilen y dom – creadur llawr coetir
Caiff tyweirch glaswellt eu codi'n ofalus fel y gellir eu rhoi yn ôl wyneb i waered ar ôl plannu'r coed i atal chwyn
Mae gwialen yn cynorthwyo'r goeden ifanc i sefydlogi ac yn cynnal gard y goeden
Mae llwybr bordiau troellog trwy goetir sy'n aeddfedu yn galluogi ymwelwyr i fwynhau amrywiaeth o rywogaethau o goed a phrysgwydd a bywyd gwyllt cysylltiedig |
O ran y pwynt olaf, rhagwelwyd ar hyd yr amser y byddai'r Ymddiriedolaeth yn datblygu canolfan addysg, felly, roedd mwynhad a dysgu'r ymwelwyr yn bwysig hefyd. Yn ychwanegol, yn y dechrau rhagwelai'r teulu Taylor y byddai amryw o ddefnyddiau 'gradd isel' ar gyfer coed wedi'u torri cyn aeddfedu, a choed wedi'u tocio yn y bôn, megis coed tân a physt ffensio. Yn ddiweddarach, oherwydd adfywiad mewn crefftau coetir traddodiadol a dyfodiad dulliau gwaith saer o 'radd uchel' o ddefnyddio coed bach wedi'u torri cyn aeddfedu a choed bôn docio, daethpwyd i sylweddoli y gellid cynhyrchu incwm mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio'r coed mewn ffyrdd eraill. Wrth gwrs, mae'n anodd dweud yn union beth fydd y galw pan fydd y coed (cynaliadwy) yn barod i'w cynaeafu, ond gall dangos rhai manteision economaidd annog creu a rheoli coedwigoedd eraill ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Beth felly sy'n gwneud coedwig 'dda' ar gyfer bywyd gwyllt? Mae'r atebion i hyn yn niferus ac yn cynnwys ffactorau megis maint a siâp y goedwig; sut mae'n rhan o'r cyd-destun lleol; hyd ochr y coetir; ei agosrwydd i goedwigoedd, gwrychoedd, cyrsiau dŵr a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill gerllaw; amrywiaeth y rhywogaethau o blanhigion a strwythur oed y coed; nifer y coed marw sydd yno; ac amrywiaeth y cynefinoedd eraill yn y goedwig, megis llennyrch heulog agored ac ardaloedd o wlyptir. Mae'n rhyfeddol sawl cynefin gwahanol y gall coedwig sefydledig eu cynnwys. Nid oes digon o le i drafod y rhain yn fanwl, ond gellir cael cyngor mwy penodol gan wahanol sefydliadau coetiroedd a bywyd gwyllt – neu dewch ar un o gyrsiau'r Ymddiriedolaeth! Mae'n bwysig sylweddoli mai ymhen amser yn unig y mae nifer o'r nodweddion dymunol hyn yn datblygu ac mai'r dechrau yn unig yw'r gwaith o gynllunio coedwig newydd. Ar y cychwyn, bydd strwythur oed y coed yn fach iawn, ychydig iawn o goed marw fydd yno, os o gwbl, a bydd planhigion y tir yn adlewyrchu'r rheolaeth flaenorol. Y gyfrinach, gyda chynllunio gofalus, yw gosod yr olygfa fel y gall bywyd gwyllt y coetir symud i mewn a chynefinoedd bychain ddatblygu o fewn y goedwig gydag amser. Yn bennaf oll, mae dewis, chwilio, plannu gofalus a gofalu am y coed, ynghyd â lleoliad, siâp a phatrymau plannu mewnol y goedwig mor hanfodol i greu cefnlen hollbwysig i natur adeiladu arno. Yn Fferm Denmarc, dewiswyd cymysgedd cyfoethog iawn o goed brodorol a rhywogaethau o brysgwydd gan mwyaf, gyda chryn amrywiaeth wedi'i phlannu ar hyd yr ochrau a llwybrau neu 'reidiau'r' coetir. Dewiswyd yr amrywiaeth hon a) i annog amrywiaeth gyfatebol o fywyd gwyllt, b) i alluogi rhywogaethau sy'n tyfu'n gyflymach i gysgodi'r rhai sy'n tyfu'n arafach, ac c) i greu harddwch a diddordeb i ymwelwyr. Felly, cynhwyswyd rhywogaethau megis y gorswigen, gyda'i mwyar a'i dail hyfryd yn yr hydref, yn ogystal â rhywogaethau fel y freuwydden, sef planhigyn fwyd melyn y rhafnwydd. Cynyddwyd yr amrywiaeth hon wrth i blanhigion megis y fedwen, y ddraenen ddu, y ddraenen wen, y gollen, eithin, y fwyaren ddu a'r dderwen adfywio'n naturiol gan alluogi olyniaeth naturiol i ymddangos ymhlith y coed a blannwyd. Roedd osgoi llinellau syth a bylchau fel catrodau rhwng y coed yn agweddau eraill a oedd yn helpu rhoi teimlad naturiol iawn i'r coetiroedd yn y dyddiau cynnar. Yn olaf, mewn rhai ardaloedd dylanwadodd ystyriaethau ymarferol ar y dewis o rywogaethau – cafodd y gollen a'r gastanwydden eu plannu dan linellau pwer gan bod modd eu rheoli'n hawdd ar gylchdro bôn docio. Yn yr 80'au, roedd llai o ymwybyddiaeth o'r angen am blannu coed o'r stoc genetig lleol – o darddiad lleol – ac o ganlyniad roedd hi bron yn amhosibl eu harchebu. Serch hynny, roedd yr holl goed a blannwyd yn Fferm Denmarc yn dod o stoc brodorol Prydain a'r rhan fwyaf yn dod o blanhigfa nad oedd yn ffermio'n ddwys. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o'r coed yn fach iawn, felly (ar wahân i rywogaethau nad ydynt yn hoffi ymyrryd â'u gwreiddiau) cawsant eu plannu allan yng ngwelyau'r blanhigfa am flwyddyn i'w cynorthwyo i galedu ar gyfer yr amodau lleol a thyfu ychydig yn fwy. Ai dyma pam y gwnaeth y rhan fwyaf o'r coed mor dda? Yn rhannol. Ffactor mawr arall oedd bod pob un goeden wedi'i phlannu mewn pydew, y rhan fwyaf gan Neil Taylor yn unig. Roedd hyn yn golygu cloddio tyweirch glaswellt a'u gosod o'r neilltu, yna cloddio twll plannu a chymysgu'r uwchbridd cyfoethocach â'r haenen glai odano, gan blannu'r goeden ac yna roi'r tyweirch glaswellt yn ôl wyneb i waered ar ôl y plannu. Ni fu unrhyw ymgais arall i orchuddio â deunydd wedi pydru neu chwynnu, ond gosodwyd gwialen gyda phob coeden (mae Fferm Denmarc mewn man gwyntog iawn) er mwyn achosi llai o ysgwyd gan y gwynt ac i atal y gard cwningod rhag rhwbio yn erbyn y goes. Yn ogystal, mae patrymau plannu hefyd yn bwysig iawn o ran dynwared natur, ac un ffordd o wneud hyn yw sylwi ar batrymau naturiol mewn coedwigoedd sydd eisoes yn bod. Mae llyfr y Comisiwn Coedwigaeth, Creating New Native Woodlands (Rodwell, J. & Patterson, G., 1994, HMSO) yn rhoi arweiniad gwych ar y pwnc hwn. Yn Fferm Denmarc, cafodd y prif rywogaethau coed (y rhai talaf) eu plannu mewn clystyrau afreolaidd o chwech i ddeg o'r un rhywogaeth. Roedd hyn yn seiliedig ar y syniad efallai y byddai un o bob chwech o'r coed, o bosibl, yn dod i'w llawn dwf – neu'n dod i'w hanterth – ar ôl gwaith torri coed anaeddfed a chynaeafu. Yna plannwyd coed a phrysgwydd nad oeddent yn eu hanterth ymysg y clystyrau o rywogaethau unigol, gan gynnig amrywiaeth, cysgod a diddordeb ychwanegol. Felly, a yw'r Ymddiriedolaeth wedi cyflawni ei hamcanion cychwynnol? Ydynt, yn sicr. Mae'r cysgod a ddarperir gan ryw 12,000 o goed yn enfawr, ac yn rhyfedd iawn mae Fferm Denmarc yn ymddangos yn lle tipyn mwy bellach. Gyda'i lwybrau troellog, ei olygfeydd cudd a'i borfeydd bioamrywiol wedi'u hamgylchynu gan goed a gwrychoedd, mae'n ddigon posibl cael ymdeimlad o unigedd a thir gwyllt sy'n nodweddiadol o safleoedd mwy o faint. Mae gwaith monitro adar yr Ymddiriedolaeth yn dangos cynnydd araf ond sefydlog mewn tiriogaethau bridio adar yn y mannau sydd wedi eu plannu, gan ymledu o'u cadarnleoedd yn y gwrychoedd. Yn ogystal, mae mamaliaid bychain wedi dod i fyw yno, gan ddefnyddio'r cysgod i symud cryn bellter o amgylch y fferm; maent yn arbennig o hoff o'r pentyrrau trwchus o goed marw sydd wedi'u creu trwy docio coed dethol yn ddiweddar er mwyn cynyddu gwerth coed i'w cynaeafu yn y dyfodol. Cyn belled ag y mae bywyd gwyllt mwy arbenigol yn y cwestiwn, rhaid cofio bod y coetiroedd hyn yn ifanc o hyd. Er enghraifft, bydd planhigion llawr coetir yn datblygu'n naturiol dim ond pan fydd yr amodau'n iawn a phan fydd ffynonellau addas ar gyfer gwladychu. Felly, gall agosrwydd coetiroedd a gwrychoedd sydd eisoes yn bod fod yn ffactor pwysig wrth ddatblygu rhai newydd. Mae hyn yn ein dysgu unwaith eto fod angen inni feithrin dull holistaidd, tirweddol o adfer ein hamgylchedd – a bod yn ddigon gwylaidd i fod yn amyneddgar ac yn ffyddiog mai Natur, o gael ychydig o gymorth, sydd orau i adfer bioamrywiaeth yn y pen draw. Gyda diolch i Neil Taylor, Barbara Taylor a Rosie Carmichael. |
|
Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic |
Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.