Teitlau'r cyrsiau a disgrifiadau ohonynt

Mae'r cyrsiau hynny a ddynodir yn 'DGO' yn cael eu cynnal ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth. Maent wedi'u hachredu'n llawn ar Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Golwg agos ar flodau mewn glaswellt hir

Mae cymunedau planhigion amrywiol yn ffynnu yn y dolydd

Monitro Bioamrywiaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (Flora Locale)

Os ydych yn rheoli unrhyw ddarn o dir lle y ceir llystyfiant, byddwch yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnal ac ychwanegu at fioamrywiaeth. Mae ystod enfawr o gyngor ar gael ynglyn â sut i wneud hyn, ond nid yw penderfynu ei effeithiolrwydd o anghenraid yn syml. Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio i helpu tirfeddianwyr a rheolwyr i gynllunio monitro bioamrywiaeth, yn benodol i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol sydd wedi'i thargedu ar eu safle. Byddwn hefyd yn trafod cyfarpar arbenigol a sut i ddadansoddi a chyflwyno data mewn ffordd ystyrlon. Bydd angen peth cefndir ym maes ecoleg neu reoli cadwraeth, a dylai cyfranogwyr fod yn barod i rannu eu syniadau â'r grwp. Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar drafodaethau grwp dan do, er, fwy na thebyg, byddwn yn mynd am dro hamddenol o gwmpas y fferm hefyd.

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol gyda chi: Gwybodaeth am safleoedd sydd o ddiddordeb i chi  – Gan mai gweithdy rhyngweithiol yw hwn, y nod yw i chi adael â syniad clir am sut y gallwch fonitro bioamrywiaeth ar eich safleoedd. I helpu gyda hyn, bydd angen i chi ddod â gwybodaeth berthnasol am eich safle. Gallai hyn fod ar ffurf mapiau, ffotograffau, brasluniau, cynlluniau rheoli, yr arolygon sydd eisoes ar gael a data sy'n ymwneud â'r safle. Byddwn hefyd yn trafod rhesymau dros fonitro, felly cyn i chi gyrraedd, bydd angen i chi feddwl am eich nodau - pam rydych chi'n monitro a beth rydych chi am ei wneud â'r canlyniadau? A oes unrhyw gynllun presennol sy'n darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch? Tiwtor: Jan Martin

Manylion y cyrsiau

Adfer Bioamrywiaeth

Bydd gweithwyr proffesiynol ym maes cadwraeth a phobl eraill sydd â diddordeb mewn bioamrywiaeth yn elwa ar y cwrs deuddydd a fydd yn ymchwilio i ddulliau o greu a rheoli cynefinoedd wedi'u seilio ar yr enghreifftiau a geir yn Fferm Denmark. Bydd yn edrych ar y rhwydwaith cynefinoedd sydd wedi'u creu'n llwyddiannus ar y safle gan drafod sut y gellir cymhwyso'r dulliau a ddefnyddiwyd at fathau eraill o gynefin gan gynnwys sefyllfaoedd eraill heblaw tir amaethyddol. Trafodir y posibiliadau ynghyd â dewis targedau bioamrywiaeth. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i arfer eu sgiliau eu hunain trwy baratoi cynllun adfer bioamrywiaeth. Tiwtor: Jan Martin

Manylion y cyrsiau

Ffos wedi'i chysgodi gan goed a llwyni ar ei glannau

Coridorau bywyd gwyllt pwysig yw nentydd a ffosydd

Bywyd Di-asgwrn-cefn Pyllau a Nentydd (DGO)

Mae'r cwrs hwn yn archwilio anifeiliaid di-asgwrn-cefn mewn cynefinoedd pyllau a nentydd dwr croyw yn Fferm Denmark a'i chyffiniau. Yn ystod sesiynau maes defnyddir amrywiaeth o dechnegau i gasglu sbesimenau. Byddwn yn arsylwi ar y rhain, eu hadnabod cyn belled ag sy'n bosibl a'u cofnodi yn y labordy â chymorth microsgopau a llenyddiaeth gyfeirio. Astudir enghreifftiau dethol yn fanylach i ymdrin â'r cylch bywyd ac addasiadau strwythurol i'r cynefin. Mae'r cwrs yn cyflwyno myfyrwyr i'r dulliau a ddefnyddir i samplu a monitro pyllau a nentydd a sôn yn fras am reoli'r cynefinoedd hyn er mwyn cynnal neu wella eu bioamrywiaeth. Tiwtor: Peter Brown

Manylion y cyrsiau

Golwg agos ar lygoden bengron y gwair

Mae llygod pengrwn y gwair yn crwydro i bob cwr o Fferm Denmark

Deall Mamaliaid Prydain 1: Cnowyr, Deintwyr a Chrenswyr Pryfed (DGO)

Bydd hwn yn cynnwys rhes adnabod rhywogaethau o bryfysorion, cnofilod, cwningod, ysgyfarnogod a cheirw i gynnwys: arwyddion maes, olion, trywyddau, tail, nythod a thyllau. Bydd dewis cynefinoedd, gan gynnwys lle a sut i chwilio am y mamaliaid hyn yn cael eu trafod a'u dangos. Bydd eu cylchoedd bywyd, eu dosbarthiad a'u statws cadwraeth hefyd yn cael eu trafod. Bydd gwaith maes ac ymarferol yn cynnwys arddangosion megis penglogau, technegau poblogaeth a monitro, gan gynnwys arolygon arwyddion maes, maglu Longworth a dadansoddi pelenni. Mae gan y ganolfan gynefinoedd ardderchog ar gyfer amrywiaeth helaeth o'r mamaliaid hyn. Tiwtor: Robert Strachan

Manylion y cyrsiau

Deall Mamaliaid Prydain 2: Ysglyfaethwyr a Helwyr (DGO)

Bydd y cwrs hwn yn cynnwys rhes adnabod rhywogaethau o gigysyddion, morloi a morfilod i gynnwys: arwyddion maes, olion, trywyddau, tail, nythod a thyllau. Bydd dewis cynefinoedd, gan gynnwys lle a sut i chwilio am y mamaliaid hyn yn cael eu trafod a'u dangos. Bydd eu cylchoedd bywyd, eu dosbarthiad a'u statws cadwraeth hefyd yn cael eu trafod, gan gynnwys technegau poblogaeth a monitro. Bydd ymarferiadau ymarferol yn cynnwys arddangosion megis penglogau, arolygon arwyddion maes a dadansoddi tail i astudio deiet (dyfrgi a llwynog). Os bydd modd, efallai y bydd sesiwn gwylio moch daear gyda'r nos hefyd yn cael ei threfnu. Tiwtor: Robert Strachan

Manylion y cyrsiau

Adnabod Planhigion Blodeuol (DGO)

“Bydd dysgu am ffurfiannau planhigion a chynghorion hwylus i wahaniaethu rhwng rhywogaethau sy'n anodd eu hadnabod, yn ddefnyddiol iawn.”
BTCV Cymru

Dysgwch hanfodion adnabod planhigion, sut i ddefnyddio blodeulyfrau a sut i adnabod rhywogaethau planhigion blodeuol gan ddefnyddio allweddau. Sgiliau angenrheidiol a gwerthfawr yw'r rhain ar gyfer ecolegwyr maes a chadwraeth, gan fod planhigion yn cael eu defnyddio i ddiffinio cynefinoedd a ffurfio sail y gadwyn fwyd. Bydd y pwyslais ar sgiliau ymarferol gydag adnabod yn digwydd yn y labordy'n bennaf lle y ceir yr amser a'r cyfarpar i archwilio sbesimenau'n llawn. Defnyddir amrywiaeth o rywogaethau cyffredin o gynefinoedd lleol. Bydd y ffocws ar ddysgu sut i adnabod planhigion blodeuol a datblygu'r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio blodeulyfr yn hytrach na dysgu rhestr ddiffiniedig o rywogaethau. Gobeithio y gallwch roi cychwyn ar adnabod teuluoedd planhigion.

Modiwl craidd yw hwn yn y Dystysgrif Ecoleg Faes a'r Dystysgrif Ecoleg Gadwraeth. Tiwtor: Margaret Howells

Manylion y cyrsiau

Porfa garw, prysgwydd a gwlyptir

Cyflwyniad i Gyfnod 1 Arolygu Cynefinoedd

Mae'r cwrs deuddydd hwn yn cyflwyno dull safonol y DU o arolygu cynefinoedd, a elwir yn Gyfnod 1. Mae iddo amrywiaeth eang o gymwysiadau, gan gynnwys cadwraeth byd natur, asesu cynefinoedd a chynllunio datblygu. Bydd y cwrs yn dechrau gyda chyflwyniad i'r dull, wedi'i ddilyn gan drafodaeth am yr ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â chynllunio ac ymgymryd ag arolygon o'r fath. Bydd gweithgareddau yn y maes yn gadael i gyfranogwyr archwilio'r amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen. Byddai gwybodaeth sylfaenol am adnabod planhigion o fudd cyn ymgymryd â'r cwrs hwn.

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol: Dillad Priodol: Bydd rhan sylweddol o'r cwrs yn yr awyr agored a bydd yn mynd yn ei flaen sut bynnag y bydd y tywydd. Llyfrau a Chyfarpar: Gwnewch yn siwr eich bod yn dod â chopi o Handbook for Phase 1 habitat survey: A technique for environmental audit a gyhoeddwyd gan Gyngor Gwarchod Natur ym 1990 a'i ailargraffu gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn 2004. Ceir copi gan y Natural History Book Service (ffôn: 01803 865913; www.nhbs.com) neu Amazon. Yr ISBN yw 0-86139-636-7 a'r pris yw £14.99. Tiwtor: Jan Martin

Manylion y cyrsiau

Adnabod Gweiriau, Hesg a Brwyn (DGO)

“Cyfle ymarferol i adnabod y dosbarthiadau mewn ffordd broffesiynol, ysgogol”
Coleg Pencoed

Dysgwch hanfodion adnabod gweiriau, hesg a brwyn gan gynnwys defnyddio blodeulyfrau gydag allweddau. Sgiliau gwerthfawr yw'r rhain ar gyfer ecolegwyr maes a chadwraeth. Bydd y pwyslais ar sgiliau ymarferol gydag adnabod yn digwydd yn y labordy'n bennaf lle y ceir yr amser a'r cyfarpar i archwilio sbesimenau'n llawn. Defnyddir amrywiaeth o rywogaethau cyffredin, rhai blodeuol yn ogystal â rhai anflodeuol, o gynefinoedd lleol. Bydd y ffocws ar ddysgu sut i adnabod a datblygu'r sgiliau a defnyddio blodeulyfr yn hyderus. Dylai myfyrwyr ddod yn gyfarwydd ag amrywiaeth helaeth o rywogaethau cyffredin, gan gysylltu'r rhywogaethau hyn â'r cynefin a ffefrir ganddynt a gallu adnabod y rhywogaethau hyn yn y maes. Gellir gwneud casgliad da o sbesimenau cyfeirio yn ystod y cwrs. Tiwtor: Margaret Howells a Sarah Watson-Jones

Manylion y cyrsiau

Adfer Gweirgloddiau Gwyllt (Flora Locale)

Bydd y cyrsiau'n darparu cyflwyniad i ecoleg a chymunedau glaswelltiroedd. Mae'r berthynas rhwng y mathau o laswelltiroedd, rheoli a newid yn cael ei hadolygu ynghyd ag arweiniad ymarferol ynglŷn â sut i adnabod, asesu, cofnodi a rheoli gwahanol gymunedau. Bydd yr olaf yn canolbwyntio ar ffyrdd o newid a chynnal a chadw glaswelltir er mwyn ychwanegu at fioamrywiaeth. Bydd tua hanner y cwrs yn yr awyr agored a cheir peth arweiniad sylfaenol ar adnabod rhywogaethau glaswelltir cyffredin yn y maes. Tiwtor: Richard Williams

Availability and booking