Rhaglen Hyfforddi 2010

Argaeledd Cyrsiau Hyfforddi

Cysylltwch â ni am fanylion pellach am y cyrsiau a'r gweithdai isod neu i wneud cais am rai newydd o dan y penawdau cadwraeth, bywyd gwyllt, adnabod rhywogaethau a byw'n gynaliadwy. Bydd hyn o gymorth mawr i ni wrth i ni fynd ati i ddatblygu ein rhaglen hyfforddi yn unol â'r galw.

Teitl y Cwrs Mae teitl pob cwrs yn cysylltu â disgrifiad manwl o'r cwrs. Mae'r cyrsiau hynny a ddynodir yn 'DGO' yn cael eu cynnal ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth. Maent wedi'u hachredu'n llawn ar Lefel 4 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol.

Costau a gostyngiadau Mae'r pris isaf yn berthnasol os ydych yn ddi-gyflog (neu'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos). Gall Cefnogwyr Shared Earth Trust dderbyn gostyngiad mawr o 20% oddi ar y pris uchaf (ac eithrio am gyrsiau Dysgu Gydol Oes, sydd eisoes â chymhorthdal). Yn ogystal, ceir gostyngiad amlarchebu o 15% oddi ar gyfanswm cost dau neu ragor o gyrsiau sy'n cael eu bwcio mewn unrhyw flwyddyn. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi ymwelwyr sy'n dychwelyd. Er enghraifft, os byddwch yn archebu lle ar gwrs arall yn 2011, ar ôl mynychu cwrs yn 2010, byddwch yn derbyn gostyngiad o 15% oddi ar gost cwrs 2011. Mae'r cyrsiau a gynhelir ar y cyd a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth (wedi'u codio DGO) a chyda Flora Locale, naill ai'n ddi-dâl neu eisoes yn derbyn cymorth sylweddol. Mae'r prisiau'n ffafriol iawn ac nid oes gostyngiad pellach.

Statws Defnyddiwch y ddolen gyswllt "Cadw" i gadw lle gan ddefnyddio'r Ffurflen Gofrestru.

Lle y mae cwrs yn llawn neu eisoes wedi'i gynnal, gallwch ddefnyddio'r ddolen "Cadw" i fynegi diddordeb ar gyfer y flwyddyn nesaf neu er mwyn derbyn cynnig lle ar y cwrs pe bai rhywun yn tynnu'n ôl.

Mae llety ar gael yn Fferm Denmark, gweler y ffurflen archebu.

Teitl y Cwrs Dyddiadau Pris Statws  
Monitro Bioamrywiaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol (Flora Locale) 6 Mai 2010 Ddi-dâl Argaeledd cyfyngedig. Defnyddiwch 'Cadw' i ddatgan diddordeb Cadw
Adfer Bioamrywiaeth 12-13 Mai 2010 £75 Lle ar gael Cadw
Bywyd Di-asgwrn-cefn Pyllau a Nentydd (DGO) 14-16 Mai 2010 £65 Lle ar gael Cadw
Deall Mamaliaid Prydain 1: Cnowyr, Deintwyr a Chrenswyr Pryfed (DGO) 21-23 Mai 2010 £65 Lle ar gael Cadw
Adnabod Planhigion Blodeuol (DGO) 18-20 Mehefin 2010 £65 Lle ar gael Cadw
Cyflwyniad i Gyfnod 1 Arolygu Cynefinoedd 21-22 Mehefin 2010 £150/£100 Lle ar gael Cadw
Adnabod Gweiriau, Hesg a Brwyn (DGO) 25-27 Mehefin 2010 £65 Lle ar gael Cadw
Adfer Gweirgloddiau Gwyllt (Flora Locale) 30 Mehefin 2010 Ddi-dâl Argaeledd cyfyngedig. Defnyddiwch 'Cadw' i ddatgan diddordeb. Cadw
Deall Mamaliaid Prydain 2: Ysglyfaethwyr a Helwyr (DGO) 2-5 Gorffennaf 2010 £65 Lle ar gael Cadw

Cyrsiau y gellir eu trefnu

Yn ogystal, rydym yn cynnig cyrsiau – dan y ddau bennawd uchod – y gellir eu trefnu a'u teilwra i ddiwallu unrhyw anghenion penodol a allai fod gan grwp neu sefydliad mewn perthynas â'r meysydd canlynol:-

Cysylltwch â ni i drefnu hyfforddiant arbennig ar gyfer eich grwp.