Hyfforddiant ac Addysg
Croeso! Mae Fferm Denmark yn brosiect unigryw, ac mae'n cynnwys canolfan hyfforddi sydd â'r holl offer angenrheidiol ac sy'n cynnal rhaglen amrywiol o gyrsiau rhad ac ymarferol ym maes cadwraeth a byw'n gynaladwy.
Eleni rydym hefyd yn peilotio rhaglen amrywiol o Gyrsiau Cynaliadwyedd Ymarferol: sy'n cynnwys sgiliau ymarferol a gweithdai diddordebau hamdden.
“Mae llawer o'r hyfforddiant yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol
ac adfer bioamrywiaeth sy'n wynebu ffermwyr,
tirfeddianwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd,
gan fynd ymlaen i'w helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol.”
Joanna Robertson, Cyd-gysylltydd Gweithredu Bioamrywiaeth,
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Gweler Argaeledd Cyrsiau Hyfforddi am restr o gyrsiau cadwraeth. O'r fan honno gallwch gadw'ch lle, gofyn am fwy o fanylion neu ofyn am hyfforddiant ychwanegol o dan y penawdau cadwraeth, arolygon bywyd gwyllt, adnabod rhywogaethau a byw'n gynaliadwy. Bydd hyn yn ein helpu i adnabod y galw wrth deilwra'r rhaglen barhaus. Mae rhagor o gyrsiau newydd, yn ymdrin â sgiliau arolygu ac adnabod rhywogaethau, bellach yn gynwysedig. Nodwch y wefan hon ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar ddod.
Y Ganolfan Hyfforddi ar Fferm Denmark
Richard Williams, ymgynghorydd ecolegol yr Ymddiriedolaeth, yn dysgu ein cwrs uchel ei gymeradwyaeth ar adnabod planhigion
Rydym yn cynnig cyrsiau sy'n addas i weithwyr proffesiynol ym maes addysg a chadwraeth, tirfeddianwyr a ffermwyr, rheolwyr tir ac ymgynghorwyr defnydd tir, myfyrwyr a grwpiau o golegau – unrhyw un sydd â diddordeb brwd yn yr amgylchedd a chefn gwlad a'r bywyd gwyllt a geir yno. Caiff ein cyrsiau hyfforddi eu cyflwyno gan diwtoriaid, ecolegwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes cadwraeth, ac maent i gyd yn bobl brofiadol iawn.
Rydym yn cynnal:-
- Gweithdai undydd sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer unrhyw un sydd eisiau rheoli peth o'u tir neu'r cyfan ohono mewn ffordd sy'n fwy caredig i fywyd gwyllt. Mae'r gweithdai'n cynnig canllawiau clir ac ymarferol.
- Adnabod a chofnodi rhywogaethau bywyd gwyllt mwy cyffredin. Cwrs sydd bob amser yn boblogaidd!
- Cyrsiau y gellir eu trefnu a'u teilwra i ddiwallu anghenion grwpiau penodol mewn perthynas ag amrywiaeth o asiantaethau cadwraeth a rheoli tir, megis Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Y Fenter Goedwigaeth, BTCV, swyddogion cadwraeth a defnydd tir mewn Awdurdodau Lleol yn ogystal â myfyrwyr a grwpiau cymunedol.
Caiff ein cyrsiau eu cynnig am brisiau cystadleuol iawn, sy'n gwneud Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn un o'r darparwyr hyfforddiant cadwraeth mwyaf cost-effeithiol yn y DU.
Gweler hefyd Cyfleusterau a Mynediad.