Adfer Cynefinoedd
Egwyddorion ac Ymarfer
Croeso i'n cyfres newydd o ysgrifau 'ar-lein' sy'n edrych ar adfer cynefinoedd bywyd gwyllt. Mae'r ysgrifau hyn yn seiliedig ar ein llyfrynnau canllawiau cadwraeth ymarferol ac erthyglau o'n cylchlythyr.
Erthyglau dan sylw
Cymorth pellach
Mae ein rhaglen hyfforddi bellach yn cynnwys cyrsiau undydd a gweithdai cynllunio cadwraeth sy'n edrych ar sut y gall tirfeddianwyr greu cynefinoedd bywyd gwyllt a chysylltiadau rhyngddynt ar eu safleoedd eu hunain – yn gyflym a heb gostau ariannol mawr!
Elfen hanfodol o astudiaeth achos Fferm Denmark fu integreiddio cynefinoedd, sef cyfuno amrywiaeth eang o laswelltir, coetir, prysgwydd a gwlyptiroedd. Bellach, mae'r gwrychoedd diraddiedig, y coed tenau eu gorchudd a'r caeau a oedd wedi'u draenio a'u gwrteithio'n drwm wedi mynd; yn eu lle ceir darn ffyniannus o gefn gwlad, yn llawn bioamrywiaeth lle gwelir coridorau a gynlluniwyd yn strategol er mwyn hwyluso symudiad rhywogaethau.
Mae Fferm Denmark bellach yn cynnig 'banc' genetig – poblogaethau rhywogaethau a allai ehangu i'r cefn gwlad o'u hamgylch. Ni all hyn ddigwydd oni bai fod y bywyd gwyllt yn gallu croesi ardaloedd llai croesawgar trwy gysylltiadau sy'n 'gyfeillgar i fywyd gwyllt' megis stribedi cynefinoedd, coridorau a cherrig sarn; mae hyn yn arbennig o wir am rywogaethau sy'n methu hedfan neu nad ydynt yn cael eu chwythu i safleoedd eraill gan y gwynt.
Ers tro bellach, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn hyrwyddo integreiddio cynefinoedd a chreu cysylltiadau ar draws cefn gwlad 'cyffredin', tir tu allan i warchodfeydd natur neu gynlluniau amaeth-amgylchedd, y gellir ei reoli i helpu cynnal amrywiaeth ehangach o fywyd gwyllt, yn enwedig os gall rhywogaethau symud rhwng 'ynysoedd' o gynefinoedd ar draws ardaloedd sy'n cael eu rheoli'n ddwysach. Mae'r cysyniad allweddol hwn o greu cysylltiadau rhwng cynefinoedd bellach wedi'i gynnwys mewn dysgeidiaeth cadwraeth ryngwladol. Mae Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE sef Natura 2000 (i hyrwyddo 'Ardaloedd Cadwraeth Arbennig' ar hyd a lled Ewrop) yn nodi y dylai Aelod Wladwriaethau geisio sicrhau bod y dulliau o reoli cefn gwlad tu allan i ardaloedd Natura 2000 yn helpu planhigion ac anifeiliaid i oroesi mewn ardaloedd gwarchodedig a symud rhyngddynt. Mae ein erthygl flaen ni Clytwaith o Natur yn crynhoi'r syniad strategol yma tuag adfer cynefinoedd lletach.
Cysylltiad cynefinoedd Fferm Denmark: porfa garw, prysgwydd a gwlyptir
Hefyd, gwelwch ein erthyglau cefnogol am Goridorau Bywyd Gwyllt, Gwrychydd, Adfer Glaswelltiroedd, Coedwig i Fywyd Gwyllt ac adroddiad hudol am anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd yn byw ar y ddaear mewn glaswelltir o dan rheolaeth cyfnewidiol O Dan Gwadnau ein Traed. Cyswlltwch â ni os hoffwch fynd ar ein rhestr bost.