Cyhoeddiadau
Cyfres o lyfrynnau Cadwraeth
“Byddwn yn ymweld â llawer iawn o ffermydd fel rhan o'n gwaith
ac rydym yn cael y llyfrynnau'n fuddiol iawn.
Yn aml, byddwn yn eu rhoi i'r ffermwyr oherwydd eu bod yn ddeniadol
ac yn hawdd eu darllen, yn glir iawn ac yn seiliedig ar yr ymarferol.
Mae yna lawer iawn o wybodaeth hirwyntog ar gael ar reoli cynefinoedd,
ond yn ein barn ni eich llyfrynnau chi yw'r gorau!”
Julie Webber, Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
“Mwynheais ddarllen y llyfrynnau yn fawr iawn – rwy'n credu y
y byddant yn ysbrydoli yn ogystal â chynnig cyngor ymarferol.”
Brian Pawson, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Cadwch mewn cysylltiad â'n gweithgareddau yn rheolaidd fel cefnogwr, a'n cynorthwyoyn ein hymdrechion. Gweler tudalen Aelodaeth/Cyfrannu.
Yn llawn cipolygon treiddgar a gwybodaeth ddefnyddiol, mae'r gyfres hon yn seiliedig ar ein gwaith arloesol yn adfer bioamrywiaeth i'r cefn gwlad amaethyddol, ac mae wedi ei hysgrifennu ar gyfer unrhyw un sydd eisiau rheoli darn o dir gyda bywyd gwyllt mewn golwg. Maent yn glir, yn ymarferol, a chyda digonedd o luniau, ac felly'n ategiad perffaith i'n cyrsiau ar greu ac adfer cynefinoedd. Mae pob llyfryn 20 tudalen A4 mewn lliw llawn, gyda'r testun yn y Saesneg ac yn y Gymraeg.
Mae'r llyfrynnau ar gael am £3.50 yr un, yn cynnwys cost postio a phacio. Fel cynnig arbennig – gallwch brynu'r pump ohonynt am £12.50 yn unig (yn gynwysedig).
- Cadwraeth ar gyfer Rhywogaethau Tir Gwlyb a Dŵr
- Adfer, Creu a Rheoli Pyllau Bach
- Cynllunio a Chreu Pyllau Mawr a Llynnoedd
- Adfer a Rheoli Porfeydd Llaith
- Trawsnewid Tir Pori a Reolwyd yn Ddwys
Er mwyn archebu, defnyddiwch ein ffurflen Cyswllt/Ymholiad. Printiwch y ffurflen a'i llenwi gan nodi'ch enw a'ch cyfeiriad, yna danfonwch hi atom ynghyd â siec yn daladwy i "Shared Earth Trust", neu gyda'r Ffurflen Archeb swyddogol. Mae'n ddrwg gennym nad ydym yn medru prosesu taliadau cardiau credyd.
Erthyglau Adfer Cynefin
Tynnir ein cyfres o erthyglau am Adfer Cynefin o'r astudiaeth achos hirdymor yn Fferm Denmark. Mae'r brif erthygl yn disgrifio gweledigaeth hirdymor yr Ymddiriedolaeth a cheir erthyglau am goridorau bywyd gwyllt; gwrychoedd; adfer tir glaswelltog; coetir; ac anifeiliaid daear di-asgwrn-cefn.
Cylchlythyr Newyddion
Rydym hefyd, ddwy waith y flwyddyn, yn cynhyrchu Cylchlythyr ar gyfer ein cefnogwyr sydd yn llawn o erthyglau ac ysgrifau yn ymwneud â'r bywyd gwyllt ar Fferm Denmark, agweddau eraill o'n gwaith, a'r digwyddiadau sydd ar ddod. Am gopi enghreifftiol, danfonwch amlen A4 stampiedig wedi ei chyfeirio, gan ysgrifennu arni 'Cylchlythyr Newyddion Enghreifftiol'.