Mae'r Ymddiriedolaeth yn esbonio'i gweledigaeth tymor hir i ddychwelyd bioamrywiaeth i gefn gwlad (cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Natur Cymru, Gwanwyn 2002).

Mae'r erthygl hon yn eithaf manwl felly mae'n bosib y byddai'n well gennych ei argraffu a'i ddarllen ar bapur (tua 3 tudalen).

Clytwaith o Natur

Mae'n fwy na thebyg y bydd nifer o bobl dros 50 oed yn ei chael hi'n gymharol hawdd i ddwyn i gof ddelwedd y dolydd blodau gwyllt traddodiadol. Ond mae'n bosib na fydd unrhyw un dan 50 oed erioed wedi gweld y fath ryfeddodau. Serch hynny, er ein bod o bosibl yn edifarhau am dranc y dolydd gwair, mae rhyw fath ar gynhyrchu dwys yn debygol o aros gyda ni am amser maith iawn, a bydd blociau mawr o ungnwd yn parhau hyd y gallwn ragweld. Ond beth petai'r ardaloedd hyn yn dod yn un rhan yn unig o glytwaith amrywiol sy'n cynnwys cyfuniad o dir sy'n cael ei reoli yn llai dwys wedi'i gysylltu ar draws y dirwedd? Gallai hyn arwain at adfer bioamrywiaeth yn ein cefn gwlad ar raddfa ehangach.

Hon yw neges Shared Earth Trust yn dilyn pymtheng mlynedd o gynnal arbrawf cadwraeth blaengar ar ffermdir Cymru. Gan gydnabod parhad anochel ffermio dwys ar rywfaint o dir amaethyddol, mae'r Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio'i sylw ar yr ardaloedd sy'n weddill, ac a allai gael eu hadfer er lles bywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd. Gwna'r Ymddiriedolaeth y gwaith hwn mewn ffordd unigryw – trwy hyrwyddo swyddogaeth hollbwysig Natur wrth arwain y broses adfer. Yn ei hanfod, golyga hyn ollwng gafael a bod yn ffyddiog y gall Natur, o gael ychydig help llaw a digon o le ac amser, adfer bioamrywiaeth drosti ei hun heb gyfraniad enfawr gan bobl.

Mae cyfuniad cyfoethog o gynefinoedd yn cymell amrywiaeth o fywyd gwyllt

Mae cyfuniad cyfoethog o gynefinoedd yn cymell amrywiaeth o fywyd gwyllt

Gall clytiau o dagwygbysen

Gall clytiau o dagwygbysen

Glesyn cyffredin

Glesyn cyffredin

Cyn 1987, roedd Fferm Denmarc yn cael ei reoli'n ddwys ar gyfer da byw. Roedd y fferm mor ddiraddiedig o ran bywyd gwyllt nes i RSPB Cymru ei disgrifio fel “lle anffrwythlon iawn ;… yn isel iawn o ran diddordeb bywyd gwyllt”. Nod yr Ymddiriedolaeth oedd gweld a ellid gwyrdroi'r broses hon o ddiraddio heb ymyrryd ryw lawer na gwario cyfalaf, ac yna fonitro cyflymder graddau bywyd gwyllt wrth ddychwelyd. Cafodd y canlynol eu defnyddio i helpu rhoi hwb i'r prosesau naturiol ddechrau: ailddefnyddio systemau pori mwy traddodiadol, cywain gwair, newid systemau draenio, atal y rhan fwyaf o ddefnyddio gwrtaith, a gosod ffensys o amgylch gwrychoedd a oedd wedi'u gorbori, nentydd a ffosydd.

Roedd y canlyniadau'n syfrdanol. Ar ôl deng mlynedd yn unig, disgrifiodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru Fferm Denmarc fel “gwarchodfa natur nodedigd ”. Er enghraifft:

  • yn 1985, dim ond 15 rhywogaeth o adar a oedd yn nythu ar y fferm, ond bob blwyddyn bellach mae cyfartaledd o 47 o rywogaethau'n bridio yno, gan gynnwys nifer o rywogaethau sy'n dirywio mewn mannau eraill, megis y llinos, bras y cyrs, coch y berllan, y fronfraith, corhedydd y coed, y llinos bengoch a thitw'r wern;
  • mae dwysedd yr adar bridio wedi mwy na dyblu ers dechrau gwneud arolygon manwl yn 1990, a'r nifer yn cyrraedd ei fan uchaf o 249 o barau ar 40 erw yn unig yn 1998;
  • mae caeau a oedd yn llawn rhygwellt yn y gorffennol bellach yn gyfoethog o flodau, glaswelltydd a hesg, a'r ddôl fwyaf amrywiol yn cynnwys dros 100 o rywogaethau o blanhigion;
  • mae glöynnod byw megis yr iâr wen wythiennog, y gwibiwr mawr a'r gwibiwr bach, gwrmyn y ddôl, boneddiges y wig ac iâr fach y glaw wedi elwa'n arbennig, ac ar gyfartaledd caiff 19 o rywogaethau eu cofnodi bob blwyddyn – sy'n llawer mwy o rywogaethau ac mewn niferoedd llawer mwy o'u cymharu â ffermdir sy'n cael ei reoli'n ddwys.
  • mae'r llyn, y pwll a'r cae bellach yn cynnal 14 o rywogaethau o was y neidr a mursennod sy'n bridio – sy'n amrywiaeth drawiadol yng ngorllewin Cymru;
  • mae porfeydd a oedd gynt yn foel bellach yn llawn chwistlod, llygod pengrwn a llygod, gan ddarparu ffynhonnell fwyd i amrywiaeth sylweddol o ysglyfaethwyr ar hyd y flwyddyn;
  • ar gyfartaledd, mae yn y porfeydd garw boblogaeth o 207 miliwn o anifeiliaid di-asgwrn-cefn y ddaear i bob hectar, o'u cymharu â dim ond 16 miliwn mewn cae rhygwellt - neu dros 1,100 o'u cymharu â llai na 90 dan bâr o esgidiau maint 9!

Cyflawnwyd hyn i gyd heb gyflwyno dim byd newydd (ar wahân i goed a llwyni a gafodd eu plannu i greu lleiniau cysgod a choetiroedd) a heb reolaeth argymhellol sy'n ffafrio un rhywogaeth dros un arall. Efallai mai hyn yw cyfraniad pwysicaf yr Ymddiriedolaeth i gadwraethyng nghefn gwlad yn ehangach. Mae'n defnyddio swyddogaeth Natur wrth alluogi pob cynefin i sefydlu ei gyfansoddion a'i gymhlethdod ei hun, ei we fywyd ei hun, yn ei amser ei hun. Wrth wneud hynny, mae'n annog pobl i ystyried eu hunain yn rhan rhyngddibynnol o'r amgylchedd, yn hytrach na bod yn llwyr y tu allan ac yn gwbl gyfrifol am ei weithredu.

Mewn gwirionedd, mae hwn yn safbwynt llawer mwy ymarferol ar gadwraeth, gan gydnabod na allwn ni ein hunain reoli popeth o'n hamgylch. Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth yn credu y gallai hyd yn oed uwchraddio darnau o dir ar raddfa fach, wedi'u gwasgaru ymhlith yr erwau ungnwd gwyrdd llachar neu euraidd, wneud gwahaniaeth enfawr i fioamrywiaeth gyffredinol ein cefn gwlad. Byddai'r rhain i gyd yn fwy gwerthfawr o lawer o gael eu cysylltu gan goridorau sy'n garedig i fywyd gwyllt, gan ddarparu cerrig sarn hollbwysig i rai rhywogaethau allu lledu allan o 'ynysoedd' o gynefinoedd.

Cred yr Ymddiriedolaeth yw bod cefn gwlad bioamrywiol yn hanfodol i iechyd yr amgylchedd rydym yn dibynnu arno fel bodau dynol. Dyma pam mae o blaid symud i ffwrdd o'r syniad o warchodfeydd natur ynysig i ddull mwy integredig o adfer iechyd cefn gwlad yn ei grynswth. Yn ogystal, mae'r Ymddiriedolaeth yn credu mai hwn yw'r cyfle gorau i allu cael bywoliaeth gynaliadwy o'r tir dros gyfnod hir. Felly, gan adeiladu ar brofiad Fferm Denmarc, mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio i gyfoethogi bioamrywiaeth ar raddfa ehangach trwy berswadio tirfeddianwyr sy'n cydymdeimlo i gyfoethogi eu gwrychoedd, eu ffosydd, eu nentydd ac ochrau caeau yn ogystal ag ardaloedd mwy o faint lle mae hynny'n bosibl.

Yn olaf, ni ddylem anghofio gwerth enfawr bywyd gwyllt hygyrch i genedlaethau'r dyfodol. Heddiw, ychydig iawn o fywyd gwyllt y gall nifer o blant ac oedolion eu hadnabod, ac nid ydynt yn ymwybodol o'i rôl yng ngwe bywyd nac mewn chwedloniaeth draddodiadol. Mae rhai hyd yn oed yn ofni bywyd gwyllt gan gredu ei fod yn beryglus neu'n achosi germau. Mae dod â'r bobl hyn yn agosach at Natur, yn profi ei rhyfeddod ac yn hau hadau gweithredu cadarnhaol i'r dyfodol, yn rhan arall o weledigaeth yr Ymddiriedolaeth. A chreu delweddau, fel delweddau'r dolydd gwair, sy'n wirioneddol yn werth eu cadw yn ein diwylliant cyfunol a'u creu mewn realiti.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic

Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.