Cysylltiadau Naturiol

Rhaglen gweithgareddau tymhorol, cysylltiedig â'r amgylchedd i grwpiau cymunedol

Rhaglen sy'n derbyn arian gan y Loteri Fawr yw Cysylltiadau Naturiol, a gydgysylltir gan y Shared Earth Trust a leolir yn Fferm Denmark.

Cysylltiadau Naturiol:

Mae Cysylltiadau Naturiol yn dangos pobl sut y gallant wneud gwahaniaeth i'w bywydau a'r lleoedd o'u cwmpas.

Sut mae Cysylltiadau Naturiol yn gweithio:

Rhaglen y Gaeaf 2009/10

Mae rhaglen y gaeaf 'Cyfaredd y Coed' bellach wedi cychwyn ac mae'n cynnwys grwpiau cymunedol mewn tasgau cadw coetiroedd, plygu perthi a chrefftau glasgoed. Mae pum grŵp yn gweithio ochr yn ochr â'r hwyluswyr profiadol, Tony Eames a Peter Drake. Mae un o'r grwpiau'n brosiect ieuenctid rhyngwladol dan nawdd UNA Cyfnewid, a byddant yn aros ar Fferm Denmark am bythefnos ym mis Ionawr.

Mae rhaglen y gaeaf eisoes yn llawn, ond bydd cyfleoedd i bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau o dan fantell 'Prosiect Cynaliadwyedd', a fydd yn cychwyn ar ddechrau gwanwyn 2010. Gall prosiectau posibl gynnwys system ailgylchu dŵr glaw; goleuo solar a gosod dŵr poeth; ac adeiladu lloches bren syml.

I gael rhagor o wybodaeth:

Shared Earth Trust
Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark
Betws Bledrws
Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion SA48 8PB

01570 493358