Aelodaeth a chyfraniadau
A ydych chi'n pryderu am ddyfodol cefn gwlad? Ydych chi'n rhannu ein cred fod amgylchfyd iach, swyddi cynaliadwy, a chymunedau ffyniannus yn mynd law-yn-llaw â'i gilydd?
Yna cefnogwch Shared Earth Trust.
Cedwir unrhyw wybodaeth a ymddiriedir i ni yn gwbl gyfrinachol. Nid ydym yn trosglwyddo'n rhestr bost i unrhyw fudiad arall, a dim ond ynglŷn â gweithgareddau'r Ymddiriedolaeth y byddwn yn cysylltu â chi.
Fe allwch naill ai ymaelodi â ni neu anfon rhodd. P'un bynnag y dewiswch, byddwch yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n gwaith, sydd yn dibynnu ar gefnogaeth haelionus unigolion a mudiadau o'r un feddylfryd. Mae cael aelodau yn ein galluogi i gynllunio i'r dyfodol, ac yn ein gwneud yn llai dibynnol ar gyllid arall. Gall hefyd sicrhau 'cyllid cyfatebol', sy'n dyblu gwerth eich cyfraniad.
Mae'r Gwybedog Cefnddu yn dychwelyd bob blwyddyn
Glöyn Llwyd y Dôl – un o'r miloedd a welir ar Fferm Denmark pob blwyddyn
Mae aelodau yn derbyn dwy daflen newyddion y flwyddyn, yn rhoi manylion ynglŷn â chanlyniadau ein gwaith yn adfer cynefinoedd, ymchwil ac arolygon bywyd gwyllt, ynghyd ag erthyglau ysgogol ar gadwraeth ac astudiaethau natur. Mae aelodau hefyd yn derbyn gostyngiad sylweddol o 20% oddi ar ein cyrsiau hyfforddi clodfawr.
Yn fwy pwysig na dim, fel cefnogwr byddwch yn ychwanegu eich llais at y rheiny sy'n pryderu am ddyfodol cefn gwlad. Trwy gydweithio, gallwn newid calonnau a meddyliau, a dylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn a sut mae cefn gwlad yn cael ei reoli.
Mae llawer o'n haelodau a mynychwyr ein cyrsiau yn dirfeddianwyr neu'n cynghori ynghylch defnyddio tir, gyda chyfrifoldeb am rannau anferth o gefn gwlad. Ein nod yw helpu'r rhain i wneud gwahaniaeth uniongyrchol eu hunain, naill ai ar eu tir eu hunain, neu drwy ddylanwadu ar y modd y mae tiroedd eraill yn cael eu rheoli.
Pa fodd bynnag y penderfynwch ein cefnogi, bydd eich cael yn bartner yn galondid mawr i ni yn ein hymdrechion parhaol.
A fyddech cystal â chwblhau y ffurflen aelodaeth/cyfrannu a'i dychwelyd i ni drwy'r post. Diolch yn fawr.