Gwasanaethau Ymgynghori
Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau i unrhyw un sydd am greu neu adfer cynefinoedd bywyd gwyllt neu sydd am helpu bywyd gwyllt mewn ffyrdd eraill.
Cyfranogwyr yn mwynhau un o'n gweithgareddau hyfforddi
Llinell Gymorth Bywyd Gwyllt
Os ydych am helpu bywyd gwyllt ar eich tir, yn eich gardd neu yn eich bro, neu os oes gennych gwestiwn neu bryderon ynglŷn â bywyd gwyllt yn eich ardal, ffoniwch ein llinell gymorth (01570 493358) neu cysylltwch â ni trwy e-bost. Os nad oes cynghorydd gennym wrth law, atebwn eich ymholiad o fewn 7 diwrnod. Os na allwn eich helpu'n uniongyrchol, ceisiwn ddod o hyd i gyrff, adnoddau a gwasanaethau eraill a all eich helpu. Os gallwch deithio i Fferm Denmark, rydym hefyd yn cynnig sesiwn ymgynghori am ddim trwy apwyntiad.
I dirfeddianwyr yng Ngheredigion, mae ein prosiect peilot Cynllun Cyfoethogi Bioamrywiaeth Ceredigion, a fu'n rhedeg rhwng 2003 a 2005, bellach wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Mae'r holl hysbysrwydd, gwybodaeth a phrofiad a enillwyd o'r cynllun hwn ar gael ac wedi'u rhannu â phartïon eraill fel sy'n briodol.
Bioamrywiaeth yw'r Busnes
Os oes gennych fusnes, mawr neu fach, yn ardal Dyffryn Teifi, mae gennym gynllun peilot newydd i'ch helpu i gyflwyno mesurau syml, rhad yn y gwaith. Nid yn unig y bydd y rhain yn helpu bywyd gwyllt ond hefyd yn gwella'ch delwedd i'r cwsmeriaid fel busnes blaengar sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys ymweliad ymgynghori â'ch gweithle a'r cyfle i dderbyn cyngor helaeth parhaus, a hynny i gyd am ffi danysgrifio fach. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Rydym wir yn gwerthfawrogi cymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chefnogwyr yr Ymddiriedolaeth ei hun wrth ariannu'r gwasanaethau uchod.
Rhaglen Hyfforddi
Bob blwyddyn rydym yn cynnal cyrsiau ar gyfer gweithwyr cadwraeth a rheoli cefn gwlad proffesiynol, tirfeddianwyr a phobl eraill o bob cwr o Gymru a Lloegr sydd â diddordeb. Mae ein Canolfan Hyfforddi wedi'i chyfarparu'n gyflawn ar gyfer cyrsiau preswyl, gan gynnig cyfraddau cystadleuol iawn. Gweler ein Rhaglen hyfforddi gyfredol.
Mae porfeydd, lleiniau cysgod a sgriffiadau i gyd wedi eu cydgysylltu ar Fferm Denmark
Erthyglau am Fywyd Gwyllt
Mae'r Wefan hon hefyd yn cynnwys erthyglau am Adfer Cynefinoedd. Mae'r rhain yn dod o'r astudiaeth achos hirdymor yn Fferm Denmark, yn enwedig ein cyfres boblogaidd o arweinlyfrau am gadwraeth ymarferol.
Cwestiynau Cyffredin
Gwelwn fod llawer o gwestiynau tebyg yn codi yn ystod ein gwaith â thirfeddianwyr a byddwn yn datblygu adran Cwestiynau Cyffredin i'r wefan hon yn fuan. Dewch yn ôl eto i weld a oes rhywbeth o ddiddordeb i chi – neu anfonwch eich cwestiwn eich hun!