Mae'r erthygl hon yn eithaf manwl felly mae'n bosib y byddai'n well gennych ei argraffu a'i ddarllen ar bapur (tua 6 tudalen).

O Dan ein Traed

Mae'r rhan fwyaf o'n monitro tymor-hir wedi canolbwyntio ar y grwpiau o rywogaethau sy'n fwyaf amlwg a gweladwy. Dros y blynyddoedd rydym wedi casglu gwybodaeth am blanhigion, glöynnod byw, adar, gwas y neidr a mamaliaid bach sy'n byw yn ein caeau, heb wybod rhyw lawer am greaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear.

Eto i gyd, mae creaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear (a'r rhan fwyaf ohonynt yn fach iawn ac felly'n heidiau anweledig) yn rhan bwysig o ecosystem ein caeau ac yn hanfodol i unrhyw gymuned allu parhau. Mae'r nifer mwyaf o greaduriaid di-asgwrn-cefn o ddigon yn weithgar mewn ymddatodiad planhigion, ac felly mae iddynt ran bwysig mewn creu elfen gweryd mewn pridd. Heb greaduriaid di-asgwrn-cefn ni fydd cymunedau planhigion yn datblygu unrhyw elfen o amrywiaeth.

Mae'r rhywogaethau hyn sy'n bwydo ar blanhigion neu falurion yn bwysig hefyd fel bwyd i greaduriaid di-asgwrn-cefn ysglyfaethus ac fel creaduriaid cynhaliol i rywogaethau parasitig. Yna bydd yr holl greaduriaid di-asgwrn-cefn yn darparu bwyd i greaduriaid ysglyfaethus ag asgwrn cefn – amffibiaid, chwistlod a llygod, adar, mamaliaid mwy fel y llwynog a'r mochyn daear.

Felly, mae creaduriaid di-asgwrn-cefn yn sylfaen i byramid bwyd lle mae'r creaduriaid ysglyfaethus ar y brig. Fe sylwn ar y rhywogaethau hynny yn aml, ac rydym yn bryderus yn eu cylch.

Heb amrywiaeth dda o greaduriaid di-asgwrn-cefn, byddai'r ecosystem gyfan lawer yn dlotach.

Dangosodd astudiaeth Neil Taylor o famaliaid bychan yn ein porfeydd a'n dolydd bod gennym boblogaeth uchel o chwistlod, a chan eu bod yn greaduriaid ysglyfaethus sy'n treulio hyd at 22 awr y dydd yn hela ac yn bwyta, roedd yn rhesymol meddwl bod nifer o greaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear yno. Ond faint yw 'nifer'? A pha grwpiau, pa rywogaethau a pha gyfran? A oedd ambell laswellt yn fwy addas na'i gilydd ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn? A sut roedd caeau Fferm Denmarc yn cymharu â'r caeau rhygwellt cyfagos?

Am flynyddoedd bûm yn gefnogol i reolaeth gyfannol ar ein caeau ac yn dadlau dros hawliau cyfartal pob rhywogaeth, ac eto roedd ein monitro'n parhau i ganolbwyntio ar y mawr a'r cymharol amlwg. Felly, yn 1998, cychwynnodd Richard Williams ar gynllun peilot i ymchwilio i greaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear yn ein caeau. Mae'r erthygl "A Myriad of Connections" (Llythyr Newyddion 18, Hydref 1998) yn nodi rhai o'r rhywogaethau y daeth ar eu traws.

Cyfyng-gyngor Moesegol

Hyd at 1998 roeddwn wedi gwrthwynebu lladd creaduriaid yn fwriadol yn ein rhaglen fonitro. Y rheol gyffredinol i ni ac i ymwelwyr oedd “Os nad oes modd ei adnabod yn fyw, yna ni chaiff ei adnabod”.

Pan gychwynnodd Richard ar ei gynllun peilot, bu'n rhaid ailystyried y mater. Daeth yn amlwg na fyddai'n bosibl cyflawni'r ymchwil heb achosi marwolaeth nifer o greaduriaid di-asgwrn-cefn, gan mai dim ond drwy ddadelfennu ac archwilio dan ficrosgop y mae'n bosibl adnabod nifer o greaduriaid di-asgwrn-cefn. Felly, roedd yn rhaid i ni dderbyn rhyw gymaint o ladd bwriadus.

Gwaethygodd y broblem wrth i Richard gynllunio ei raglen ymchwil ar gyfer 1999. Penderfynodd gasglu samplau o lystyfiant 10 cm2 (4 modfedd sgwâr) yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn o bedwar gwahanol fath o laswelltir ar Fferm Denmarc, ac yna o bumed safle ar un o'r caeau rhygwellt cyfagos. Byddai'r samplau glaswellt yn cael eu rhoi mewn twmffedi Tullgren lle byddai'r golau a'r sychder cynyddol yn 'gyrru' yr holl greaduriaid di-asgwrn-cefn a oedd yn byw yn y glaswellt i ladd ac amddiffyn. Roedd yn amlwg y byddai'n rhaid i nifer fawr o greaduriaid di-asgwrn-cefn farw.

Ar ôl gofyn nifer o gwestiynau i ni ein hunain, penderfynwyd dechrau ar yr ymchwil hon. Teimlid bod angen i'r Ymddiriedolaeth gael mwy o ddata da ar greaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear yn ein caeau, fel y gallem ddadlau dros gymryd anghenion y grwpiau a'r rhywogaethau hyn i ystyriaeth wrth reoli cadwraeth. Roedd lladd yn anochel er mwyn casglu'r data hwn.

Roedd adegau pan oedd yn anodd iawn byw gyda'r penderfyniad hwnnw, yn enwedig pan ddaeth Richard ag enghraifft benodol i ni gael edmygu ei harddwch neu ei gymhlethdod. Beth mae dyn yn ei wneud wrth benderfynu beth sy'n gysegredig a beth nad yw'n gysegredig? – neu beth sy'n ddiangen yn ein cynllun ehangach? Ac a yw'n haws cyfiawnhau lladd y rhywogaethau hynny nad ydyn nhw mor hardd neu gymhleth?

Edrych ar Un Sampl

Yn y ffotograff gallwch weld darn o ddysgl ag arni rai o'r creaduriaid a dynnwyd o borfeydd mewn 10 cm2 (4 modfedd sgwâr) yng Nghae Pond, sy'n cael ei reoli gan anifeiliaid pori yn unig.

Enlarged photo of dish containing a variety of invertebrates

Dros ddeuddeg mis, mae'r cyfartaledd o 28 sampl yn dangos bod y creaduriaid canlynol yn byw yn y darn hwn o laswellt:

Gwiddon 194.2 Gwenyn, Morgrug, Gwenyn Meirch (oedolion) 0.4
Mwydod 2.8 Gwrachod y lludw 0.2
Pryfed Genwair 0.2 Glöynnod Byw, Gwyfynod (larfa) 0.9
Pryfed cop 0.5 Nadroedd miltroed 0.2
Chwilod (larfa) 1.0 Nadroedd cantroed 0.2
Chwilod (oedolion) 2.1 Mwydod Nematod 0.2
Cynffonnau sbonc 18.4 Carw'r gwellt 0.2
Pryfed (larfa) 6.5 Thripsod (heb adenydd) 3.7
Pryfed (oedolion) 1.5 Thripsod (ag adenydd) 0.1
Gwlithod 0.4 Protura 0.1
Malwod 0.3 Pryfed llyfrau 0.1
Llau (Heteroptera) 0.1    
Llau (Homoptera) 4.1    
    238.5

Mae'r niferoedd hyn hefyd yn cyfateb i'r boblogaeth a allosodwyd mewn miliynau i bob hectar. Mewn geiriau eraill, bydd isafswm o 238 miliwn o greaduriaid di-asgwrn-cefn ar hectar o laswellt Cae Pond sy'n cael ei bori; a bydd o leiaf 96 miliwn mewn erw.

Y ffigyrau lleiaf yn unig yw'r rhain gan fod dull ymchwil Richard yn golygu'n anochel mai ychydig iawn o'r creaduriaid di-asgwrn-cefn hynny sy'n gallu hedfan, neidio neu redeg o afael perygl y gallodd eu dal. Mae hyn yn esbonio absenoldeb ceiliogod rhedyn, er enghraifft. Mae samplu glaswellt yn digwydd ar yr wyneb yn unig, ac felly nid yw'r ffigyrau'n cynnwys y myrdd creaduriaid sy'n byw ychydig islaw wyneb y pridd. (Mae'r Pryfed Genwair a'r Mwydod a gofnodwyd yn rhai sy'n bwydo ar yr wyneb.)

Gallwn edrych ar Gae Pond mewn golau newydd o wybod ei fod yn llawn creaduriaid byw. Mae yma amrywiaeth o rywogaethau a chymhlethdod o ryng-gysylltiadau sy'n gwneud y cae byw hwn yn we anhygoel o gymhleth.

Cymharu

Ceir cyfartaledd y canlyniadau i bob sampl gydol y flwyddyn ar gyfer y saith safle y bu Richard yn eu hastudio.

Cyfartaledd Creaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear i bob sampl mewn gwahanol fathau o Laswelltir sy'n cael ei eiffermio

Histogram - see caption

Rydym yn astudio tri math o gae mewn gwirionedd, a chymuned a strwythur planhigion gwahanol iawn ym mhob un, sy'n ganlyniad i'r drefn o reoli amaethyddiaeth. Gallwn grynhoi gwaith Richard ymhellach fel a ganlyn:

Math o Gae Rheoli Cyfartaledd Poblogaeth
mewn Miliynau dros y flwyddyn:
Cymhareb
Erw Hectar
Porfa arw Pori nad yw'n ddwys 87 207 13
Dôl Wair Lladd bob blwyddyn, ym mis Awst fel rheol 31 75 5
Rhygwellt Gwrtaith, silwair, pori dwys 7 16 1

Gallwn edrych ar hwn mewn ffordd arall: pe byddech yn sefyll mewn cae ag esgidiau maint 9 am eich traed, mae'n bosibl iawn y byddech yn sefyll ar y nifer canlynol o greaduriaid di-asgwrn-cefn yn y borfa:

Porfa Arw: 1,106
Dôl Wair: 400
Rhygwellt: 86

Mae'n rhoi ystyr eangach i “droedio'n ysgafn ar y ddaear”!

Caeau Gwair o'u Cymharu â Phorfeydd

Mae cynlluniau amaeth-amgylchedd cyfredol yn annog ffermwyr i osod nod allweddol iddynt eu hunain i ail-greu "dolydd gwair traddodiadol".

Er ei bod yn glir bod dolydd gwair yn gynefin pwysig, ystod o blanhigion penodol a'r trychfilod sy'n ymweld â nhw i fwydo sy'n elwa fwyaf. I'r gwrthwyneb, mae gwaith Neil wedi dangos bod y rhan o Gae Top sy'n ddolydd gwair yn rhoi llai o gefnogaeth i famaliaid mewn blwyddyn na'r rhan gyfagos sy'n borfa arw. Dengys astudiaeth Richard bod hyn yn wir hefyd am greaduriaid di-asgwrn-cefn y ddaear.

Canlyniad amlycaf lladd gwair flwyddyn ar ôl blwyddyn o'i gymharu â datblygu porfa arw a'i lystyfiant matiog, sy'n pydru ar y ddaear, yw bod nifer y creaduriaid di-asgwrn-cefn yn gyfyngedig i ryw 36% o'r nifer a geir yn y borfa. Yn achos y grwpiau canlynol o greaduriaid di-asgwrn-cefn yn benodol, mae'r niferoedd yn y dolydd gwair yn llai na 50% o'r rhai a geir yn y borfa arw: Gwiddon, Chwilod, (larfa ac oedolion), Pryfed (larfa), Gwlithod, Malwod, Llau, Gwrachod y Lludw, Glöynnod Byw (larfa) a Gwyfynod (larfa).

Tuswau Glaswellt o'u Cymharu â Phorfa heb Duswau

Yng Nghae Top, gwelodd Richard bod yn y tuswau Glaswellt Grugwellt' boblogaeth o greaduriaid di-asgwrn-cefn a oedd 32% yn fwy na chynefin glaswellt arall yn yr un borfa arw. Ond nad yw'r tuswau hyn ond rhan fach o'r borfa, maent yn cyfrannu dim ond 3% yn ychwanegol at y cyfanswm o greaduriaid di-asgwrn-cefn.

Eto i gyd, un ffordd yn unig o werthuso arwyddocâd pob cynefin ar gyfer creaduriaid di-asgwrn-cefn yw'r cyfanswm. Gwelsom fod nifer o grwpiau o greaduriaid di-asgwrn-cefn yn bresennol yn y tuswau mewn mwy na dwywaith y nifer a gafwyd yng ngweddill y glaswelltir: Pryfed cop, Chwilod (oedolion), Gwrachod y lludw, Nadroedd Cantroed a Thripsod.

Tuswau Brwyn

Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymwrthod â phob cyngor i dorri'r brwyn sydd fel pe baent yn drech na phob dim arall yn rhannau gwlypach Cae Eithin, Cae Pond a'r Waun Fach. Mae'r cyngor hwn yn seiliedig ar y gred y byddai'n cynhyrchu mwy o amrywiaeth o ran planhigion, ac yn creu cynefin bridio gwell ar gyfer y Cornicyll.

Rydym wedi darganfod bod y brwyn yn cynnal poblogaethau mawr o famaliaid bach, yn enwedig yn y gaeaf; yn darparu cynefin nythu delfrydol ar gyfer y Corhedydd a Bras y Gors; ac yn denu ystod eang o famaliaid ac adar hela. Mae ein porfeydd brwynog hefyd yn cynnal amrywiaeth fawr o blanhigion gwlyptiroedd, ac rydym yn falch ein bod wedi gadael i'r caeau hyn ddatblygu heb eu rheoli'n gaeth.

Gwyddom erbyn hyn bod rhai grwpiau o rywogaethau'n elwa'n fawr ar y tuswau brwyn er eu bod, at ei gilydd, yn cynnal nifer llai o greaduriaid di-asgwrn-cefn na'r glaswelltir o gwmpas. Yn y tuswau brwyn hyn cafwyd tair gwaith yn fwy o Bryfed a chwe gwaith yn fwy o Wrachod y Lludw, o'u cymharu â'r glaswelltir o gwmpas.

Gwyndwn Rhygwellt Dwys

Mae'r ardal hon yn enwog am brinder cyfanswm a grwpiau'r creaduriaid di-asgwrn-cefn sy'n bresennol. Roedd mwyafrif yr holl greaduriaid di-asgwrn-cefn a gofnodwyd yn cynnwys Gwiddon, Cynffon Sbonc a larfa Mosgitos a Gwybed. Roedd y rhan fwyaf o'r grwpiau eraill yn amlwg am eu bod yn agos at fod yn absennol neu'n hollol absennol. Roedd creaduriaid di-asgwrn-cefn ysglyfaethus, ac eithrio rhai o rywogaethau'r Gwiddon, yn absennol i bob pwrpas.

Roedd prinder dybryd o greaduriaid di-asgwrn-cefn ym mhoblogaethau cyfan rhyw 22% yn unig o'r rhai a ddarganfuwyd yn y dolydd gwair a oedd wedi eu hadfer, a dim ond 7% o'r rhai a gofnodwyd yn y borfa a oedd wedi ei hadfer.

Fel gyda'n hastudiaeth o adar, glöynnod byw ac odonata sy'n bridio ar y tir cyfagos sy'n cael ei reoli'n ddwys, mae prinder y creaduriaid di-asgwrn-cefn yn ein hatgoffa o dlodi Fferm Denmarc pan ddechreuwyd ar ein gwaith adfer. Ond mae nifer ac amrywiaeth rhyfeddol y creaduriaid di-asgwrn-cefn ar borfeydd a dolydd yn ein hatgoffa unwaith yn rhagor am y posibiliadau o drawsnewid y cyffredin yn rhywbeth arbennig. Mae posibiliadau tebyg ar bob darn o dir.

Y Pris

Mae bron i 26,000 o greaduriaid di-asgwrn-cefn wedi trengu o ganlyniad i'r gwaith ymchwil hwn – y rhai bach iawn a'r rhai amlycach, y syml a'r cymhleth, y 'plaen' a'r 'hardd' yn ein tyb ni. Mae gwerth i bob un ohonynt ac fe'u haberthwyd er mwyn gwybodaeth a dealltwriaeth, ac mae hyn yn anodd. Eto, hwyrach y dylem ystyried hefyd faint sy'n cael eu gwasgu gan garnau un fuwch yn pori, neu hyd yn oed gan ein traed ni wrth i ni weithio ar y tir neu edmygu ei harddwch.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic

Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.