Mae'r erthygl hon yn eithaf manwl felly mae'n bosib y byddai'n well gennych ei argraffu a'i ddarllen ar bapur (tua 4 tudalen).

Gwrychoedd i Fywyd Gwyllt

Mae'r mwyafrif ohonom yn gwybod beth yw gwrych. Yn fras, mae'n gyfuniad o brysgwydd, llwyni a choed sy'n fwy o hyd nag o led ac sydd fel arfer yn gweithredu fel ffin rhwng caeau. Mewn rhai rhannau o Gernyw neu Gymru, gall 'gwrych' fod yn glawdd o gerrig a phridd sydd ag ychydig iawn o brysgwydd arno. Mewn ardaloedd eraill, rhwystr i anifeiliaid wedi'i blygu a'i blethu'n ofalus yw gwrych go iawn. Mae mwyafrif y gwrychoedd ar dir fferm yn debyg i linell o brysgwydd neu goedwig denau, neu rywbeth rhwng y ddau beth hyn, ac maent yn aml yn adlewyrchiad llawn bylchau o ddyddiau gwell.

Dim ond yn gymharol ddiweddar y mae gwerth gwrychoedd fel cynefin bywyd gwyllt wedi'i gydnabod gan lawer, yn enwedig yng nghyd-destun cynefinoedd cyfagos. Yn anffodus, mae llawer o wrychoedd yn adlewyrchu'r galw am ddulliau rheoli hawdd yn hytrach nag anghenion bywyd gwyllt, ac maent felly'n llinellau unffurf wedi'u dyrnu gan beiriant. Gall hyd yn oed gwrychoedd hynafol fod gryn dipyn yn dlotach am iddynt gael eu camreoli ar hyd y blynyddoedd, er eu bod yn debygol o gynnwys amrywiaeth ehangach o blanhigion ac anifeiliaid.

Thin line of trees on bare-earth bank between two grass pastures

Hen wrych â chlawdd wedi erydu'n wael

Os caiff gwrych byr ei dorri â pheiriant bob blwyddyn neu ddwy, gall gwrych byr trwchus ar ffurf sgwâr 'taclus' cyfarwydd ddatblygu a llenwi bob blwyddyn. Yn aml, serch hynny, bydd rhywogaethau mwy prysgog sy'n tyfu'n gynt (megis rhedyn a mieri) yn aildyfu'n gyflym o'r gwaelod, a gallant drechu'r rhywogaethau o bren caled gan greu llinell fylchog o lwyni a phrysgwydd.

Os cânt eu gadael yn llonydd, bydd gwrychoedd fel arfer yn mynd yn fwy ac yn lletach. Yn y pen draw, y coed sydd fel arfer yn ennill y frwydr, a gallant ffurfio canopi sy'n ddigon i rwystro tyfiant y prysgwydd islaw – yn enwedig os oes anifeiliaid yn pori gwaelod y gwrych. Canlyniad hyn yn aml yw llinell fylchog o goed, neu goedwig hirfain ag ychydig iawn o isdyfiant, yn dibynnu ar eich safbwynt.

Gall cloddiau yn ogystal â gwrychoedd gael eu niweidio gan anifeiliaid. Mae gwartheg yn hoff o rwbio'u pennau mewn unrhyw bridd ar hyd y clawdd, ac mae defaid yn hoffi gorwedd mewn mannau cysgodol ar ei hyd, gan achosi erydiad wrth wneud hynny. Yn ogystal, gall unrhyw fwlch, unwaith y mae wedi'i greu, droi'n llwybr tarw poblogaidd a throi'n ffos wedyn wrth ddyfnhau.

Wrth blygu gwrych, caiff tyfiant prennaidd syth ei docio a chaiff ei dorri'n rhannol yn agos i'w waelod. Yna, caiff ei dynnu i un cyfeiriad i orgyffwrdd â choed cyfagos sydd wedi'u plygu neu i'w blethu rhyngddynt. Wrth goedlannu, caiff coesynnau prennaidd a bonion eu torri'n agos i'w gwaelod i hyrwyddo tyfiant newydd. Weithiau cyfunir y ddwy dechneg, neu fe'u defnyddir y naill ar ôl y llall. Os hoffech daflen sy'n cynnwys arweiniad i blygu gwrychoedd a choedlannu neu arweiniad i ffensio, anfonwch amlen A4 â stamp a'ch cyfeiriad arni i'r Ymddiriedolaeth, gan ysgrifennu 'Plygu Gwrych/Coedlannu' a/neu 'Ffensio' arni.

Beth yw eu pwrpas?

Câi gwrychoedd eu cynnal a'u cadw'n wreiddiol er mwyn atal anifeiliaid rhag crwydro, cynnig lloches rhag y gwynt a'r glaw i stoc a chnydau, a darparu pren a choed i'w defnyddio ar y fferm. Os mai atal anifeiliaid rhag crwydro oedd y flaenoriaeth, golygai hyn fel arfer y byddai'r gwrych yn cael ei blygu1 bob 5 i 10 (neu hyd yn oed 20) mlynedd, er mwyn lleihau ei swmp cyffredinol a chynyddu ei drwch.

Hyd yn oed yn yr oes pan oedd digon o grefftwyr ar gael, cyfran fach yn unig o wrychoedd fferm y gellid ei phlygu mewn un gaeaf. Oherwydd hyn, gwelid cyfres o wahanol fathau o wrychoedd wedi aildyfu i raddau gwahanol mewn ardal arbennig ar unrhyw adeg. Os oedd angen coed mân ar gyfer tanwydd, ffensio neu i ddibenion eraill, gellid rheoli rhai gwrychoedd drwy eu coedlannu bob 10-20 mlynedd. Mae'n bosib hefyd y byddai yna elfen o gynhyrchu pren trymach o hen goed wedi'u cadw.

Thick line of trees with little low growth

Gwrych ag ychydig iawn o isdyfiant

Beth sy'n gwneud gwrych da?

Y broblem wrth ateb y cwestiwn hwn yw bod gan y myrdd o blanhigion ac anifeiliaid sy'n gallu byw mewn gwrychoedd ofynion amrywiol dirifedi, ac mae'r rhain yn amrywio'n aml yn ystod gwahanol gyfnodau yn oes ambell rywogaeth. Dyma rai esiamplau o sut y caiff gwrychoedd eu defnyddio gan fywyd gwyllt:

Defnyddir gwrychoedd i fagu

Mae angen cysgod da ar rai rhywogaethau o adar megis telor yr helyg neu lwyd y berth yn ogystal â llawer o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, gan brysgwydd yn rhan isaf y gwrych. Mae angen llwyni talach (ar y siff-siaff) neu goed (ar ysguthanod, brain ac ati). Efallai y bydd rhai adar eraill yn nythu gerllaw (e.e. corhedydd y coed yn nythu ar y ddaear) ond yn defnyddio rhannau uchaf y gwrych fel pyst canu.

Newly laid hedge

Gwrych newydd ei blygu

Gwelwyd bod nifer yr adar nythu cyffredin sydd mewn gwrychoedd â haenen o brysgwydd a haenen o goed talach, ddwywaith cymaint â'r nifer sydd mewn gwrychoedd lle mae un o'r haenau hyn ar goll. Mewn astudiaeth arall, gwelwyd bod cyfartaledd o chwe phâr o adar ymhob mil o lathenni o weddillion gwrych neu wrych newydd ei blygu; gellid gweld 9 pâr mewn gwrych isel trwchus wedi'i greu drwy docio'n rheolaidd; ond ceid cyfartaledd o 33 phâr mewn gwrychoedd llawn prysglwyni aeddfed a rhai llydan 'siâp A'.

Cyfyngir nifer o bryfed i un rhywogaeth o blanhigion neu i ychydig ohonynt, ac efallai y bydd angen gwahanol blanhigion arnynt yn ystod gwahanol gyfnodau yn eu hoes. Mae angen graddau penodol o dyfiant ar rai ohonynt hyd yn oed (megis y glöyn byw brithribin brown, sy'n dueddol o ddodwy wyau ar dyfiant draenen ddu 1-2 flwydd oed yn unig).

Mae angen hen goed mawr â cheudyllau, craciau a phren marw ar anifeiliaid eraill. Mae'r rhain yn cynnwys adar sy'n nythu mewn tyllau, ystlumod, a nifer o bryfed sy'n amrywio o rai mosgitos i chwilod hirgorn neu wenyn rheibus bach. Gall coed o'r fath hefyd fod yn gartref i lawer o ffyngau yn ogystal â'r pryfed arbennig sy'n bwydo arnynt ac yn magu ynddynt.

Hazel regrowth from a coppice stump

Coeden gyll wedi aildyfu o fonyn yn sgîl coedlannu

Gwrychoedd yn darparu bwyd

I rai rhywogaethau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, mamaliaid bach ac adar, mae ffrwythau, cnau a hadau'r gwrychoedd yn ffynhonnell bwysig o fwyd gaeaf. Mae cyfanswm y bwyd sydd ar gael yn dibynnu ar sut y caiff y gwrych ei reoli. Mae torri'r gwrych yn rhoi terfyn ar ei allu i gynhyrchu ffrwythau caled (cnau a hadau), ac nid yw'r cynnyrch hwn yn cynyddu'n sylweddol am tua 5-6 mlynedd. Gall torri'r gwrych, yn enwedig yn aml â pheiriant, roi terfyn ar ei allu i gynhyrchu ffrwythau meddal hefyd.

Gwrychoedd yn darparu cysgod

Er nad yw'n rhwydd dod o hyd i dystiolaeth bendant, awgryma gwaith arsylwi cyffredinol bod angen cysgod gwrychoedd ar sawl rhywogaeth er mwyn symud rhwng cynefinoedd tameidiog eraill. Mae'r rhain yn cynnwys rhai adar, mamaliaid bach ac amffibia yn ogystal ag ymlusgiaid megis y fadfall a neidr y gwair (yn enwedig os oes ffos yn cydredeg â'r gwrych). Rydym yn gwybod, yn sgîl trapio mamaliaid bach yn fyw ar Fferm Denmark, y gall anifeiliaid unigol symud cannoedd o fetrau ar hyd gwrychoedd – dim ond llygoden ddwl fyddai'n croesi tir agored â glaswellt byr arno i gyrraedd yr ochr draw.

Thick line of trees with red berries

Gall gwrychoedd sydd wedi'u niweidio barhau i ddarparu bwyd gaeaf

Mae cysgod yn arbennig o bwysig yn y gaeaf. Rydym wedi gweld y gall mamaliaid bach fod yn absennol bron yn llwyr o gaeau gwair yn ystod y gaeaf, tra bod nifer sylweddol ohonynt yn y gwrychoedd. Pan ddaw'r haf, bydd nifer fawr o famaliaid sy'n magu i'w gweld ar y dolydd unwaith eto, a bydd llawer ohonynt wedi symud yno o'r gwrychoedd. Bydd hyn o fantais i'r dylluan wen ac ysglyfaethwyr eraill sy'n ceisio bwydo'u rhai bach.

Yn yr haf, yn enwedig ar ddyddiau gwyntog, gellir gweld yn aml bod pryfed megis glöynnod byw a gweision y neidr yn brysur ac yn bwydo ar hyd ochrau cynhesaf, mwyaf cysgodol gwrychoedd a'u bod yn absennol neu'n llonydd ymhellach i mewn yn y caeau agored.

Planhigion y Gwrychoedd

Yn ogystal â phlanhigion prennaidd, gall gwrychoedd fod yn gartref i sawl rhywogaeth sy'n absennol i raddau helaeth o'r caeau. Pan fo ffens o amgylch gwrych, ceir ymyl yn aml o wair tal bras (megis byswellt neu ffug-geirchwellt) gyda phlanhigion blodeuol mawr (megis yr efwr, danadl a brenhines y weirglodd) yn arwain at dyfiant prysgog megis mieri, rhedyn neu'r ddraenen ddu ac ati. Gall y trawsnewid graddol hwn o borfa i wrych fod yn fuddiol i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

A fenced-off line of emerging shrubs

Trawsnewid graddol o borfa i wrych

Mewn achosion eraill, gall y gwrych fod ar glawdd pridd sydd yn yr haul ond sydd wedi'i bori. Mae cloddiau o'r fath yn tueddu i gynhesu'n gynt a bod â gwell draeniad na'r tir o'u cwmpas, ac yn aml gallant gynnig hafan i rywogaethau sydd wedi diflannu i raddau helaeth o'r caeau o amgylch iddynt. Tra'u bod yn werthfawr i sawl anifail di-asgwrn-cefn, gallant hefyd gynnig lloches i blanhigion llai cyffredin sy'n tyfu ar ymyl glaswelltir neu goetir, yn dibynnu ar y gwrych. Er enghraifft, dim ond ar gloddiau gwrychoedd y mae rhai micro­rywogaethau o ddant y llew (mae dros 200 ohonynt i gyd) yn tyfu. Golyga hyn y gall y gwrych gynnig lloches i rywogaethau o blanhigion yn ogystal â chynefin i anifeiliaid.

Rheoli ar gyfer bywyd gwyllt

Mae gwahanol anghenion planhigion ac anifeiliaid yn golygu nad oes ateb syml i gwestiwn megis 'pa fath o wrych sydd orau i geisio'i greu?' Mae pob gwrych yn tyfu ac yn newid, a bydd yn werthfawr mewn gwahanol ffyrdd i wahanol rywogaethau yn ystod gwahanol gyfnodau. Serch hynny, gall rhai egwyddorion rheoli syml, wedi'u haddasu i anghenion ffermio ymarferol, gynyddu gwerth gwrychoedd yn sylweddol i'r fferm ac i fywyd gwyllt. Dyma ganllawiau bras, gan gofio y bydd mabwysiadu amrywiaeth o agweddau ar draws un safle'n help i greu ystod o amodau ar gyfer bywyd gwyllt.

Hedgerow fenced in to allow scrub development

Gwrych â ffens er mwyn rhoi cyfle i brysgwydd ddatblygu

Brash piled against new stock fence

Gall tocion sy'n weddill ar ôl plygu gwrych greu cynefin ychwanegol

Yn olaf, os hoffech wella eich gwrychoedd, ceisiwch feddwl am gefn gwlad fel gwrychoedd wedi'u hamgylchynu gan gaeau yn hytrach na chaeau wedi'u hamgylchynu gan wrychoedd!