Mae'r erthygl hon yn eithaf manwl felly mae'n bosib y byddai'n well gennych ei argraffu a'i ddarllen ar bapur (tua 3 tudalen).

Adfer Glaswelltiroedd – Garddio Wyneb i Waered?

Rydym wedi sôn sawl gwaith mewn llythyrau newyddion blaenorol am adfer glaswelltiroedd a rhai o effeithiau hynny ar blanhigion a thrychfilod a hynny heb esbonio'n iawn beth yn union mae adfer yn ei olygu a sut mae mynd ati. Yr hyn ydyw mewn gwirionedd yw ceisio trawsnewid caeau lle ceir ambell rywogaeth o laswellt amaethyddol yn unig (a rhywfaint o feillion gwynion), yn gymunedau sydd ag amrywiaeth mwy eang o laswellt ac amrywiaeth cyfoethog o blanhigion blodeuol. I'r rhan fwyaf mae gweirgloddiau llawn blodau yn cyfleu hyn i'r dim.

Fodd bynnag, mae'n werth cofio, o safbwynt trychfil neu famal bach, gall amrywiaeth yn strwythur y planhigion fod yr un mor bwysig ag amrywiaeth o ran rhywogaethau planhigion. Felly, tra bo angen planhigion penodol ar rai rhywogaethau i fagu neu fwydo arnynt, efallai y bydd ar eraill angen glaswellt byr a chynnes yn yr haf neu dwmpathau o laswellt garw i gysgodi yn y gaeaf.

Friesian cattle in field

Caeau rhygwellt wedi'u rheoli'n ddwys ar fferm leol

Denmark Farm hay meadow in summer with a mosaic of wildflowers and wetter rushy areas

Cae wedi'i drawsnewid ar Fferm Denmark ym mis Mehefin

Close-up of brown hare in long grass

Ysgyfarnog sy'n magu yn y glaswellt hir ar Fferm Denmark

Close-up of flowers in long grass

Un o'n gweirgloddiau cyn lladd y gwair. Mae'r glaswellt a'r blodau gwyllt yn cynhyrchu gwair gydag amrywiaeth o fwynau ac elfennau hybrin

Os ydych yn gadael cae heb wneud dim iddo, fe gewch gymysgedd sy'n newid yn araf o laswellt bras sy'n drech na phopeth arall ynghyd ag is-haen gedenog o hen blanhigion marw ac, os caiff ei adael am gyfnod hir iawn, bydd yn datblygu'n brysgdir neu'n goetir. Gallai hynny fod yn iawn mewn rhai ardaloedd, ond rydym yn cymryd mai'r bwriad yw creu cynefinoedd glaswelltir amrywiol hefyd.

Os ydym am gael amrywiaeth o wahanol blanhigion mewn gardd, rydym yn ceisio darparu'r pridd a'r amodau eraill fydd yn rhoi'r tyfiant llawnaf. Petaech yn cael cipolwg sydyn ar lyfr garddio neu gatalog hadau byddech yn darganfod, yn anffodus, bod angen llecyn heulog â phridd llawn maeth sy'n draenio'n rhwydd ar y mwyafrif o blanhigion.

Wrth gwrs, mae yna eithriadau, ond mae'r rhan fwyaf o arddwyr yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau o bopeth i'r planhigion y maent wedi'u dewis, a hyd yn oed os ydynt yn llwyddo, mae'n rhaid iddyn nhw wedyn fynd ati i docio'r rhai cryfaf fel na fyddant yn tyfu dros bob dim arall yn yr ardd. Yn baradocsaidd, rydym hefyd yn mynd ati i wrteithio lawnt ac yna'n ei thorri'n fyr i'w chadw yn gwbl unffurf a chael gwared ar blanhigion nad ydym eu heisiau megis dail tafol.

Mae hyn yn debyg i ffermio dwys lle mai glaswellt yw'r cnwd. Bydd y ffermwr yn lladd cynifer o rywogaethau ag sy'n bosibl trwy aredig, ac yna'n hau mathau o laswellt sy'n gallu gwneud y mwyaf o lefelau maeth (gwrtaith) uchel. Bydd y rhain yn drech nag unrhyw blanhigion eraill gan eu bod yn tyfu'n gyflym a'r rhain fydd y cyntaf i dyfu'n ôl ar ôl cael eu torri.

Felly sut mae mynd ati? Mae ein profiad o arddio yn dangos y bydd y rhan fwyaf o blanhigion (ond nid pob un) yn tyfu'n dda cyn belled â'u bod yn cael digon o ddŵr a phridd ffrwythlon o strwythur da heb ormod o asid nac alcali. Mae hyn hefyd yn wir am nifer o blanhigion glaswelltir a welir mewn gweirgloddiau a phorfeydd traddodiadol sy'n llawn llysiau. Mae hyn yn awgrymu y byddem yn gweld rhagor o flodau a rhywogaethau mwy amrywiol ar ein tir pe baem yn cynyddu lefelau'r maeth ac yn gwella draeniad y tir. Ond mae hyn yn rhan o'r hyn y mae ffermwr dwys yn ei wneud i gynhyrchu'r eangderau gwyrdd sydd mor gyfarwydd!

Bron na ellir dweud bod adfer glaswelltiroedd yn troi garddio traddodiadol wyneb i waered. Y peth cyntaf yr ydym yn ceisio ei wneud yw gostwng lefelau maeth y pridd. Efallai fod hyn yn ymddangos yn afresymegol – rydym eisoes wedi dweud bod llawer o'r planhigion yr ydym am eu hannog yn gallu tyfu'n llwyddiannus mewn pridd ffrwythlon. Y ffactor sydd ar goll yn hyn i gyd yw cystadleuaeth. Tra bydd y rhan fwyaf o rywogaethau yr ydym am eu hannog yn tyfu'n dda iawn os cânt fod ar eu pennau eu hunain mewn pridd ffrwythlon bydd eraill, megis rhygwellt amaethyddol, yn tyfu'n well fyth, ac maent yn tueddu i foddi'r gweddill a'u hatal rhag sefydlu yn y lle cyntaf. Er hynny, bydd y rhywogaethau yr ydym am eu hannog yn tyfu'n iawn dan amodau llawer gwaeth ac yn ennill y blaen ar y mathau amaethyddol barus! (Rhaid nodi, fodd bynnag, y gall nifer o rywogaethau glaswellt 'traddodiadol' megis byswellt dyfu'n rhemp ar bridd ffrwythlon ac nad oes unrhyw beth o'i le ar rygwellt fel y cyfryw; diffyg amrywiaeth yw'r drwg.)

Felly mae'n rhaid i ni newid amodau'r pridd er mwyn rhoi cyfle i rywogaethau llai grymus. Mae'n rhaid i ni hefyd alluogi hadau i gyrraedd y pridd ac egino a gallwn annog rhywogaethau eraill trwy atal draeniad i greu ardaloedd gwlypach.

Yn ffodus, mae ffordd syml o ostwng maeth yn ogystal ag annog hadau i egino, a hynny trwy gynaeafu gwair yn eithaf hwyr yn y tymor a pheidio â defnyddio gwrtaith na thail i ailgyflenwi'r maeth yr ydym yn ei dynnu o'r tir. Erbyn diwedd mis Gorffennaf a mis Awst, bydd nifer o blanhigion gwyllt wedi dechrau dod i had. I nifer, gall lladd a sychu yn y cae orffen y broses aeddfedu. Yn ystod y cyfnod hwn caiff y gwair ei daflu o amgylch drosodd a throsodd gan beiriannau a bydd hyn yn gwasgaru llawer o'r hadau sydd yn bresennol. Mewn cyferbyniad, mae gwneud silwair fel rheol yn golygu bod y cae'n cael ei dorri sawl gwaith gan ddechrau'n gynnar yn y tymor pan nad oes llawer o blanhigion wedi dod i had, ac mae'r rhan fwyaf o beiriannau cynaeafu silwair modern i bob pwrpas yn ysgubo planhigion a llawer o fywyd gwyllt arall yn lân o'r cae.

Ar ôl lladd y gwair, hwyrach y gellid rhoi anifeiliaid i bori'r adladd yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn tynnu rhagor o faeth o'r tir ac agor a sathru'r glastir i helpu planhigion newydd i dyfu o hadau. Os yw'r tir yn rhy arw neu'n rhy wlyb i wneud gwair, efallai mai rhoi anifeiliaid i bori yw'r unig ffordd o dynnu maeth o'r tir, ond bydd hon yn broses eithaf araf.

Bydd y lefelau maeth yn dal i ddisgyn yn y blynyddoedd dilynol a bydd y rhywogaethau glaswellt mwy egnïol yn llai rhemp nag y buont. Bydd ychydig mwy o rywogaethau yn tyfu o hadau bob blwyddyn a bydd y planhigion hyn yn eu tro yn dod i had. Ac felly gall y broses barhau o flwyddyn i flwyddyn wrth i hadau gael eu cario o ardaloedd eraill gan y gwynt, adar neu famaliaid bach. Os yw'r tir yn addas, gellir atal draeniad er mwyn rhwystro glaswellt amaethyddol rhag tyfu a rhoi cyfle i ragor o rywogaethau tir gwlyb sefydlu a chael mwy o amrywiaethyn gyffredinol.

Nid oes unrhyw 'hadau blodau gwyllt' wedi cael eu defnyddio ar Fferm Denmark. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod hwn wedi bod yn benderfyniad doeth gan deulu'r Taylors yn yr 1980au, oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r rhywogaethau mwy dymunol wedi cyrraedd o'u rhan eu hunain, ac mae'n ymddangos hefyd bod gwell cydbwysedd yn y cymunedau nag mewn caeau wedi'u hau a geir mewn mannau eraill. Mae safleoedd eraill hefyd wedi bod yn llwyddiannus lle'r oedd hadau wedi'u casglu o hen weirgloddiau yn lleol, ond yn amlach na pheidio mae hau cymysgedd o hadau blodau gwyllt masnachol wedi arwain at gymunedau planhigion anghytbwys sy'n cynnwys rhywogaethau dieithr o dramor.

Wedi i'r driniaeth hon fynd ymlaen am ryw bum mlynedd, bach iawn o'r rhygwellt barus fydd yn weddill a bydd cyfuniad o faeswellt, peisgwellt, perwellt y gwanwyn a rhonwellt y ci yn amlwg iawn yn y glastir. Fe ddylai blodau melyn y melynydd a'r peradyl ymddangos a gydag amser ac wrth i'r tir fynd yn llai ffrwythlon bydd codennau megis meillion a meillion coch yn ymddangos. Gall planhigion sy'n bwydo'n rhannol ar laswellt (hemiparaseitiaid) hefyd ddod i'r amlwg a helpu i leihau amlygrwydd y glaswellt ymhellach. Y gribell felen a'r effros yw'r rhai mwyaf cyfarwydd o'r rhain ac fe allant ymledu'n aruthrol.

Ar ôl rhyw ddeng mlynedd o leihau lefel y maeth yn gyson, bydd y cnwd gwair yn gostwng i fod oddeutu traean y lefelau blaenorol neu lai. Fodd bynnag, mae'r ffaith nad oes raid talu am wrtaith ac ailhadu yn helpu i wneud iawn am y lleihad a welwyd yn y cynnyrch.

Am ba hyd dylid parhau â'r broses hon? Ar ôl rhywfaint o amser mae'n syniad da ailgyflwyno pori fel rhan allweddol o'r cylch rheoli. Bydd hyn yn helpu i amrywio strwythur y llystyfiant a fydd o fantais i nifer o anifeiliaid di-asgwrn cefn ac anifeiliaid asgwrn cefn. Bydd brîd yr anifeiliaid a ddefnyddir i bori yn ogystal â chyfraddau stocio a'r amseru i gyd yn effeithio ar ddatblygiad y glastir ac mae hyn yn bwnc ynddo'i hun. Fodd bynnag, yn gyffredinol iawn, bydd gwartheg a cheffylau fel rheol yn rhoi glastir mwy amrywiol na defaid, ond mae'r dewis o frîd ac amodau lleol bob amser yn arwyddocaol.

Fel gyda bron popeth mewn amaethyddiaeth a chadwraeth, ni ellir diffinio rheolau pendant ar gyfer adfer glaswelltiroedd. Y dull gweithredu 'gorau' bob amser fydd cymhwyso egwyddorion sylfaenol yng nghyd-destun gofynion sy'n gwrthdaro ac amodau lleol. Fodd bynnag, mae'r hyn y gellir ei gyflawni drwy rwystro'r gweithgareddau sy'n amlwg yn ddinistriol yn anhygoel. Fel y mae Fferm Denmark wedi dangos, gall hyn ffurfio ecosystemau glaswelltir ffrwythlon yn gyflym, a gall cynnal y rhain trwy greu cynefinoedd amrywiol eraill wneud y cyfan yn fwy effeithiol eto.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic

Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.