Cyfleusterau
Lleoliad Poblogaidd
“Diolch unwaith eto am gynnal ein digwyddiad hyfforddi gorau hyd yn hyn, yn
ein barn ni, ac yn sicr yn ein hoff leoliad, gyda'r arlwyo gorau ryden ni erioed wedi'i gael”
Darren Gibbs, Swyddog Tuag At Fyw ar Un Blaned, PLANED (Ebrill 2010)
Mae Canolfan Gwarchodaeth Fferm Denmark yn lleoliad sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd ar gyfer cynnal cynadleddau staff, dosbarthiadau celf a digwyddiadau cymdeithasol. Mae'n cynnig cyfleusterau o safon uchel mewn amgylchedd hardd a hamddenol am bris isel.
I'r rheiny ohonoch sy'n chwilio am leoliad tawel a phrydferth i gynnal seminarau, gweithdai neu ddigwyddiadau cymunedol mae cyfleusterau'r Ganolfan ar gael ar adegau amrywiol o'r flwyddyn ac mae'r rhain yn cynnwys ystafelloedd cysgu 'en-suite', ystafelloedd seminar ar gyfer hyd at 36 o bobl, a cheginau â'r holl offer angenrheidiol ar gyfer llety hunanarlwyo, (neu gellir hurio arlwywr lleol).
Y Ganolfan Hyfforddi ar Fferm Denmark
Mae Fferm Denmark yn lleoliad delfrydol lle gall grwpiau gael profiadau gwahanol, astudio, hamddena a gwirfoddoli. Mae'n bosibl i gadair olwyn fynd at yr holl gyfleusterau ar y llawr isaf, a cheir tŷ bach a chawod ar gyfer yr anabl. Cysylltwch â ni am fanylion.
“Mae'r cyfleusterau yn rhagorol, ac yn hynod o ran gwerth am arian.
Ar ben hyn i gyd, mae staff yr Ymddiriedolaeth mor gymwynasgar a chyfeillgar.”
Pat Craig, Grŵp Green Spirit De Orllewin Cymru
Mae'r Eco-Wersyllfa yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm Denmark ar gael rhwng mis Mehefin a Medi ar gyfer gwersylla tawel i deuluoedd, unigolion a grwpiau. Gall grwpiau hefyd logi iyrt 18 troedfedd mewn diamedr fel gofod cymunedol (ond nid ar gyfer cysgu).