Cyrsiau Cynaliadwyedd Ymarferol Hydref 2010

Argaeledd cyrsiau

Eleni rydym yn peilotio rhaglen amrywiol o weithdai sgiliau ymarferol a diddordebau hamdden. Mae'r rhain yn cynnwys byw yn y gwyllt, meddyginiaeth lysieuol, gwehyddu gwŷdd peg, ffeltio, crefft goed a gosod eich system ficrohydro'ch hun. Lleolir y cyrsiau rhagorol hyn, sy'n cael eu haddysgu gan arbenigwyr, yng nghanol holl harddwch Fferm Denmark.

Teitl y Cwrs Mae teitl pob cwrs yn cysylltu â disgrifiad manwl o'r cwrs.

Dyddiadau ac amseroedd Yr amserau a restrir yw'r gwir amserau pryd y bydd y cwrs yn dechrau. Dylech gyrraedd 10-15 munud cyn yr amser penodedig os hoffech ddiod boeth cyn dechrau.

Cost a gostyngiadau Gostyngiad Archebu'n Fuan – ffi is sy'n ddilys hyd at 4 wythnos cyn dyddiad y cwrs, fel arall y ffi uwch sy'n berthnasol.

Statws Defnyddiwch y ddolen gyswllt "Cadw" i gadw lle gan ddefnyddio'r Ffurflen Gofrestru.

Oedran: oni nodir fel arall, mae pob cwrs yn addas i gyfranogwyr 16+. Mae croeso i rai 13-15 oed yng nghwmni rhiant neu warcheidwad.

Mae llefydd ar y cwrs yn cael eu llenwi ar sail cyntaf i'r felin ac ni fyddant yn cael eu cadarnhau oni dderbynnir taliad llawn (gweler y ffurflen archebu).

Lle mae cwrs wedi'i lenwi neu le y mae eisoes wedi'i gynnal byddwn yn derbyn enwau pellach (gallwch ddefnyddio'r ddolen "Cadw" ar-lein) i dderbyn cynnig unrhyw lefydd sydd ar gael yn sgil pobl sy'n tynnu'n ôl neu er mwyn datgan diddordeb i'r flwyddyn nesaf.

Mae cyrsiau'n dibynnu ar isafswm cyfranogwyr i'w galluogi i fynd rhagddynt yn ôl yr amserlen. Os nad yw'r isafswm cyfranogwyr yn cael ei gyrraedd yna gall cyrsiau gael eu diddymu neu eu had-drefnu.

Mae Llety ar gael yn Fferm Denmark. Gweler y ffurflen archebu.

Teitl y Cwrs Dyddiadau Pris Statws  
Adeiladu ar Sgiliau Byw yn y Gwyllt (preswyl) Sadwrn 4 - Sul 5 Medi 10yb-4yp £140/£150 Lle ar gael Cadw
Meddyginiaethau Llysieuol yr Hydref a'r Gaeaf Mawrth 14 Medi 10yb-4yp £35/£40 Lle ar gael Cadw
Gwehyddu Gwydd Peg Sadwrn 2 Hydref 10yb-4yp £35/£40 Lle ar gael Cadw
Rhaglen Hanner Tymor: Offer i wneud Stolion Mawrth 26 - Mercher 27 Hydref 10yb-4yp £70/£80 Lle ar gael Cadw
Rhaglen Hanner Tymor: Hwyl yn y Goedwig Iau 28 Hydref 10yb-4yp £20/£25 Lle ar gael Cadw
O'r Cnu i'r Ffelt Sadwrn 6 Tachwedd 9.30yb-4.30yp £35/£40 Lle ar gael Cadw
Gosod Eich System Microhydro'ch Hun Gwener 19 Tachwedd 9.30yb-5yp £90/£100 Lle ar gael Cadw