Cyrsiau Cynaliadwyedd Ymarferol Hydref 2010

Ffoto: Nick Hermann

Adeiladu ar Sgiliau Byw yn y Gwyllt (preswyl)

Penwythnos yn cyflwyno sgiliau uwch at fyw yn y gwyllt. Anelir y cwrs hwn at y rheini sydd â pheth profiad o fyw yn y gwyllt. Bydd yn mynd yn ôl at sgiliau sylfaenol – tân, lloches, bwyd a sgiliau gwersylla – gan amcanu at helaethu'r rhain hyd at lefel uwch ar draws y cwrs. Bydd y Diwrnod Cyntaf yn cynnwys tân, lloches (technegau modern) a rhaffau. Bydd yr Ail Ddiwrnod yn cynnwys hel bwyd, adnabod planhigion a gwneud glud naturiol. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cysgu o dan darpolin yn y coed a bydd pob pryd o fwyd yn cael ei goginio ar y cyd ar dân agored. Cewch ddod â'ch pabell, tarpolin, sach gysgu a mat ynysu'ch hun er bod gan Stoatwood Bushcraft darpolinau a matiau y gellir eu defnyddio'n ddi-d âl. Mae gan Stoatwood hefyd sachau cysgo i'w llogi (£10 y pen) os oes angen. Cyfle i atgyfnerthu'ch sgiliau presennol a rhoi cynnig ar gysgu allan o dan darpolin. Rhaid i gyfranogwyr ddod â dillad awyr agored addas. Hwylusydd: Stoatwood Bushcraft.

Manylion y cyrsiau

Meddyginiaethau Llysieuol yr Hydref a'r Gaeaf

Diwrnod yn cynnwys elfen ymarferol ac sy'n canolbwyntio ar blanhigion diwedd yr haf sydd ar gael ar safle Fferm Denmark. Bydd cyfle i chi i wneud meddyginiaeth lysieuol syml (e.e. surop ysgaw neu win tonig sbeislyd, gan ddibynnu ar beth y down ni ar ei draws ar y diwrnod) i fynd â chi adre ac i drafod ac i ddysgu am ddefnydd meddyginiaethol y planhigion hyn ac eraill. Dysgwch sut i'ch cadw'ch hun iach trwy'r gaeaf yng nghwmni Kate Butler – llysieuydd meddyginiaethol cymwysedig lleol a chanddi wybodaeth helaeth am lysiau meddyginiaethol a diddordeb garw mewn hel y planhigion hyn o'r wlad o gwmpas. Rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn bwyd a dillad awyr agored addas. Hwylusydd: Kate Butler.

Manylion y cyrsiau

Gwehyddu Gwydd Peg

Dysgwch sut i fesur ystof ac i baratoi gwŷdd i wehyddu. Gan ddefnyddio ystof cotwm neu jiwt byddwch yn dysgu camau sylfaenol wrth wehyddu mewn ffordd syml a myfyriol gan ddefnyddio cnu defaid i greu pad sedd neu ryg bach. Nid yn unig y byddwch yn gadael ag eitem hyfryd wedi'i gwehyddu â llaw ond hefyd bydd gennych yr wybodaeth sydd ei hangen i ddefnyddio'r dechneg fendigedig hon gartref ar gyfer eich prosiectau'ch hun. Rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn cinio. Hwylusydd: Hannah Cutler.

Manylion y cyrsiau

Rhaglen Hanner Tymor: Offer i wneud Stolion

Dau ddiwrnod llawn i bobl ifainc (12+ oed) ac oedolion i ddysgu sut i ddefnyddio gwahanol offer crefft goed a sut i wneud stôl neu gadair i fynd adre â nhw! Rhowch gynnig ar ddefnyddio "ceffyl naddu", cyllell naddu, rhesgl, carntro ac ebill, hoelbren a drilio. Bydd y pren yn cael ei dorri o goetiroedd cynaliadwy sy'n cael eu rheoli. Crefftwr coed lleol a medrus yw Tony Eames gyda sawl blwyddyn o brofiad yn gweithio â grwpiau yn Fferm Denmark. Rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn bwyd, côt law ac esgiadau cryf. Hwylusydd: Tony Eames.

Manylion y cyrsiau

Rhaglen Hanner Tymor: Hwyl yn y Goedwig

Diwrnod arbennig a hynod greadigol i bobl ifainc 8-12 oed, sy'n rhoi cyfle iddynt brofi'r awyr agored go-iawn a dysgu trwy arbrofi. Bydd y diwrnod yn eu helpu i ddatblygu eu hunanbarch gan feithrin eu galluoedd eu hunain. Mae gweithgareddau'n cynnwys naddu pren, gwneud pensiliau a gleiniau, creu gweoedd breuddwydion, codi lloches a chreu a gwrando ar straeon. Os bydd y tywydd yn gadael i ni, mae hyd yn oed cyfle i fwynhau tân agored sy'n cael ei gynnau gan wreichion callestr naturiol – rhywbeth sydd bob amser yn gyfareddol a bythgofiadwy. Diwrnod arbennig ac unigryw fydd hwn bob tro. Mae'n rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn cinio, côt law ac esgidiau cryf. Hwylusydd: Gyles Morris/Naturesbase

Manylion y cyrsiau

O'r Cnu i'r Ffelt

Gweithdy undydd sy'n addas i ddechreuwyr. Dysgwch sut i wneud ffelt gan ddefnyddio techneg ffeltio wlyb. Gan ddechrau gyda chyflwyniad sy'n trafod gwreiddiau ffelt fel tecstil, priodweddau a ffynonellau cnu ac arddangosiad gan ddefnyddio cnu sydd wedi'i olchi a'i gribo i greu llen ffelt. Wedyn, gallwch ddewis rhwng nifer o dempladau dan arweiniad arbenigol Lorraine. Byddwch yn mynd adre ag eitem ddefnyddiol a pheth wmbredd o ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig a phrosiectau eraill. Darperir yr holl ddefnyddiau a daw'r gwlân a ddefnyddir o ffermydd yn y DU. Mae'n rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn cinio. Hwylusydd: Lorraine Pocklington.

Manylion y cyrsiau

Gosod Eich System Microhydro'ch Hun

Cwrs arall uchel ei glod gan Epogee – partner hyfforddi Navitron. Byddwch yn dysgu pob dim sydd angen i chi ei wybod am asesu, gosod neu fanylebu'ch system microhydro'ch hun. Ymhlith y pethau dan sylw fydd defnydd a mathau o dyrbinau hydro, sut i asesu addasrwydd eich safle, dulliau o fesur pen a llif, cyfrifo'r pŵer a cholledion posibl, dewis a gosod tyrbin addas, argae/rhwystr dŵr, y gwahaniaethau rhwng systemau batri a'r prif gyflenwad trydan a sut i ymdrin â phroblemau a rheoliadau, grantiau posibl a'r tariff cyflenwi trydan newydd. Bydd amser i chi ofyn cwestiynau am y system i'ch safle penodol chi. Rhaid i gyfranogwyr ddod â thocyn cinio. Hwylusydd: Epogee.

Manylion y cyrsiau