|
|
|
|
|
Gorolwg 'Coridorau bywyd gwyllt' yw'r prif ffyrdd o gysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt a galluogi rhai rhywogaethau i symud rhwng ardaloedd a fyddai'n gwbl ynysig fel arall. Mae hyn yn gallu helpu ychwanegu at boblogaethau ynysig. Yn ddelfrydol, mae'r coridor ei hun hefyd yn diwallu peth neu'r cyfan o'r angen am gysgod ac amddiffyniad a safleoedd bwydo a bridio. Mae'r cysyniad yn syml ond gall ddigwydd mewn amrywiaeth o leoliadau a chynefinoedd boed yn drefol neu'n wledig. |
Coridorau Bywyd Gwyllt – cysylltiadau hollbwysig rhwng cynefinoeddBeth sy'n gwneud coridor bywyd gwyllt da?
|
Lleiniau cysgodi – cysylltiadau cynefinoedd llydan, trwchus
Coridor ffos – digon o orchudd a chynefinoedd amrywiol
Mae angen i lyffantod duon symud rhwng y gwlyptir a'r tir sychach i gwblhau eu cylch bridio a gaeafgysgu
Mae banciau cloddiau'n darparu coridorau yn ogystal â lloches i lawer o flodau gwyllt |
Gwahanol fathau o goridorauMae parhad cloddiau'n bwysig i alluogi rhai rhywogaethau i symud rhwng gwahanol ardaloedd. Mae llawer o rywogaethau glöynnod byw yn symud ar hyd llinellau cloddiau ac ochrau coedwigoedd yn hytrach na chroesi caeau agored. Byddant hefyd yn bridio ac yn bwydo mewn gwrychoedd os ydynt yn cynnwys y planhigion bwyd cywir ar gyfer y lindys a phlanhigion neithdar ar gyfer glöynnod byw aeddfed. Bydd glöynnod brych y coed yn ffeindio'u ffordd ar hyd y gwrych yn eithaf cyflym ond mae glöynnod y porthor, er enghraifft, yn aros yn benodol ar wrychoedd ac maent yn amharod i groesi tir agored, felly gall bylchau mawr mewn gwrychoedd eu rhwystro rhag symud o un ardal i'r llall. Mae ein hastudiaethau ar famaliaid bychain yn Fferm Denmarc wedi darparu tystiolaeth ryfeddol o symudiad llygod y maes, ac i raddau llai, llygod coch, ar hyd gwrychoedd hynod o lydan a thrwchus. Mae'r coridorau gwrychoedd hyn hyd at 5 metr o led o ganol y clawdd gyda ffens ar bob ochr i rwystro da byw. Teithiodd rhai llygod y maes dros 300 metr o ganol y coetir i mewn ac ar hyd y coridorau hyn i fwydo a bridio. Yn aml iawn, mae angen gorchudd ac amodau microhinsoddol gwrychoedd – gwres, cysgod, lleithder a chysgod rhag y gwynt ar anifeiliaid araf eu symudiad sy'n symud rhwng gwahanol cynefinoedd yn ystod y flwyddyn. Mae llyffantod yn defnyddio coridorau o'r fath rhwng pyllau bridio a'r tir sych lle maent yn gaeafgysgu. Yn yr un modd, mae nadroedd hefyd yn symud rhwng safleoedd gaeafgysgu a bridio mewn banciau neu goetir a thiroedd hela'r haf mewn glaswelltir llaith. Gall ffosydd hefyd weithredu yn yr un modd â choridorau gwrychoedd, gan roi cysgod a galluogi anifeiliaid i guddio rhag ysglyfaethwyr. Mae gwrych ar ymyl glaswelltir yn taflu cysgod ac yn dylanwadu ar dymheredd fel y gall ddarparu'r union amodau sy'n galluogi rhywogaeth i ffynnu. Er enghraifft, gall clychau'r gog hau eu hunain yn araf, ond yn ddiwrthdro ar hyd gwrychoedd a chyrraedd safleoedd coetir addas os oes coridor cysylltiol yn bodoli. Mae afonydd a nentydd yn goridorau pwysig ar gyfer bywyd gwyllt hefyd, yn enwedig pysgod. Mae glannau afonydd yn gweithredu fel coridorau a chartrefi i lygod y dŵr, dyfrgwn a bronwennod y dwr. Mae nentydd a ffosydd yn darparu coridor i anifeiliaid di-asgwrn-cefn dŵr croyw ac felly maent yn ffynhonnell fwyd trwy gydol y flwyddyn i bryfysorion megis chwistlod dŵr. Mae presenoldeb ffos fel glandir llesol hefyd yn cynyddu gwerth gwrych i fywyd gwyllt. Mae rhai o'r adar sy'n aml yn nythu mewn cloddiau, megis y fronfraith, adar duon a robinod cochion yn dod o hyd i amodau bwydo da ar hyd ochrau ffosydd llaith. Yn yr un modd, bydd rhai pryfed sy'n treulio eu cyfnodau larfaol yn y ffos yn bwydo ar flodau'r gwrychoedd wedi iddynt aeddfedu. Gall ffos neu fanc pridd sy'n rhedeg trwy goetir gynnal ystod gwbl wahanol o rywogaethau i'r rhai sydd i'w cael yn y goedwig ei hun. Mewn cefn gwlad cymharol gwastad, gall banciau pridd ddarparu'r llethrau mwy serth sydd eu hangen ar blanhigion arbenigol penodol. Mae anifeiliaid megis moch daear ac adar fel gwenoliaid y glennydd yn aml yn dibynnu ar lannau er mwyn cloddio eu tyllau. Hyd yn oed mewn coetir llydanddail wedi'i reoli, bydd presenoldeb mieri a phrysgwydd dwys arall yn cynnig safleoedd bridio a choridorau bwydo ar gyfer drywod a llwydiaid y berth. Felly, os caiff cysylltiadau prysgwydd eu darparu i'r coetir hwn o ardaloedd eraill, bydd yn cynnig mwy o gyfleoedd nythu i adar sy'n defnyddio'r isdyfiant. Mae neilltuo tir yn y tymor hir a chreu talar bywyd yn y dirwedd sy'n cael ei ffermio yn cynnig cryn botensial fel cynefin ymylol ac fel ffordd arall i ddosbarthu rhywogaethau. Gall talar o'r fath gael effaith fanteisiol ar y prif gnwd gan ei bod yn cynnal poblogaethau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy'n bwydo ar lawer o rywogaethau sy'n bla ar dir âr – ffurf naturiol o reoli pla. Mae ein hastudiaethau ein hunain o anifeiliaid di-asgwrn-cefn y tir ar Fferm Denmarc ac ar ffermdir cyfagos a reolir yn ddwys yn dangos amrywiaeth nodedig yn nwyseddau poblogaeth ac amrywiaeth y rhywogaethau mewn glaswelltir yn ôl y modd y mae'n cael ei reoli. Mae gan borfa garw, heb ei wella, uchder a strwythur amrywiol gyda chlystyrau a thwmpathau, sy'n darparu microhinsawdd a chysgod ar gyfer llawer o rywogaethau anifeiliaid di-asgwrn-cefn y tir. Mae'r math hwn o borfa'n cynnal llawer mwy o rywogaethau ac mewn niferoedd llawer yn fwy na'r rhygwellt byr, ungnwd sy'n nodweddiadol o lawer o'n glaswelltir sy'n cael ei ffermio. Mae clytwaith cynefinoedd Fferm Denmarc yn osgoi 'ynysoedd' ar wahân o borfa garw ac yn ei gysylltu â dolydd gwair, coetir a chynefinoedd y gwlyptir, fel y gall poblogaethau anifeiliaid di-asgwrn-cefn y tir gyrraedd lefelau uchel dros y safle cyfan. Yn ogystal â'r coridorau mwy traddodiadol hyn, gall nifer o nodweddion eraill chwarae rhan yn rhwydwaith dosbarthu bywyd gwyllt. Mae rheilffyrdd ac ymylon traffyrdd yn cynnig diogelwch rhag ymyrraeth gan ddyn, gyda bywyd gwyllt yn addasu'n gyflym i'r sŵn a'r gwynt sy'n cael eu creu gan drenau a cherbydau sy'n mynd heibio. Gall safleoedd diwydiannol hefyd ddarparu cysylltiadau hollbwysig, trwy dir gwastraff ffiniol a ffosydd dŵr ffo sydd wedi tyfu'n wyllt, mewn ardaloedd a fyddai fel arall yn 'ddiffeithwch' bywyd gwyllt. Wrth i safleoedd 'tir glas' gael eu datblygu, gall gerddi a thiroedd ysgolion ddod yn bwysicach fyth fel cerrig sarn ar gyfer bywyd gwyllt rhwng ardaloedd o gefn gwlad. Nid oes raid i goridorau bywyd gwyllt fod yn gwbl ddi-dor. Er enghraifft, clystyrau o gynefinoedd heb fod yn rhy bell o'i gilydd, megis perthlys, pyllau, a choed tal mewn gwrychoedd. Mae'r rhain yn galluogi rhai rhywogaethau i groesi ardaloedd y bydden nhw fel arall yn ei chael hi'n anodd i'w croesi. Yn ogystal, gall cerrig sarn greu amgylchedd sy'n fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt rhwng darnau o gynefinoedd cyfoethocach. Hwyrach nad oes angen cyswllt uniongyrchol neu gerrig sarn o'r un math o gynefin ar rai rhywogaethau, dim ond amgylchedd mwy cyfeillgar – un sydd o leiaf yn darparu bwyd neu gysgod, hyd yn oed os nad yw'n darparu cynefin bridio – er mwyn teithio drosto. Mae gwerth mawr i unrhyw goridor sy'n rhoi unrhyw fath o gymorth i rywogaethau symud, bwydo a bridio, ac felly goroesi. Mae'r raddfa'n gallu amrywio o'r byd-eang – (er enghraifft, mae cysylltiadau'n cael eu creu rhwng y darnau o fforestydd glaw sy'n weddill ar draws ardaloedd eang o dde America) – i lawr i stribyn byr o wrych sy'n cysylltu'r hyn sy'n weddill o goetir lleol. Adfer coridorau ar eich tir eich hunYn ychwanegol at yr uchod, mae yna lawer mwy o enghreifftiau y gellid eu nodi. Gall coridorau bywyd gwyllt amrywio'n fawr o ran eu maint, eu harwynebedd, eu strwythur a'u haddasrwydd ar gyfer gwahanol rywogaethau. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion yn gymharol syml a'r cyfan sydd ei angen yw edrych yn fwy creadigol ar y potensial ar gyfer coridorau bywyd gwyllt ar eich safle eich hun ynghyd â rhywfaint o gynllunio clir, tymor hir i adnabod cyfleoedd i gysylltu'r cynefinoedd. Po fwyaf y gorau! Os yn bosibl, dylai'r cysylltiad hwn ymestyn i gynnwys tir cyfagos; er mwyn llwyddo, mae'n hanfodol bod mwy o ffermwyr a thirfeddianwyr yn gweithio ar y cyd, i chwarae eu rhan mewn ymdrech ehangach i gyfoethogi ein cefn gwlad. (Gweler ein tudalennau hyfforddi neu cysylltwch â ni am fanylion fforwm tirfeddianwyr a digwyddiadau hyfforddiant a gynhelir yn Fferm Denmarc.) |
|
Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic |
Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.