Lôn werdd isel a chysgodol, â chloddiau cerrig

Mae un llwybr yn dilyn yr hen 'Lôn Werdd' sydd wedi'i hadfer

Mynediad i Bawb

Mae Fferm Denmark yn cynnig cyfle i bobl o bob oed a gallu gysylltu o'r newydd â'r byd naturiol. Bellach, mae Fferm Denmark ar agor i bawb o ddydd Gwener i ddydd Llun, 9am hyd fachlud haul drwy gydol y flwyddyn, ac yn cynnig teithiau natur, cyfleusterau dehongli safle a mynediad i rai mewn cadeiriau olwyn i goetiroedd, dolydd blodau gwyllt a phyllau. (Cadwch gwn ar dennyn os gwelwch yn dda.)

Gall treulio amser gyda byd natur gael effaith ddofn ar y meddwl a'r ysbryd – Fferm Denmark yw'r lle i adfywio'n bersonol. Mae croeso cynnes yma i chi, boed am awr neu ddwy neu am gyfnod hirach.

Llwybr estyllod yn troelli trwy goetir sy'n aeddfedu

Llwybr estyllod yn arwain i ganol coetir Fferm Denmark

Coedwig clychau'r gog

Un o'r llwybrau glaswellt hawdd i gerddwyr, drwy goedwig clychau'r gog

Shared Earth Trust
Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark
Betws Bledrws
Llanbedr Pont Steffan
Ceredigion
SA48 8PB

Ffôn: 01570 493358 (oriau arferol swyddfa)

Map yn dangos lleoliad Fferm Denmark

Y Cyfeirnod Grid ar gyfer Fferm Denmark yw SN586537. Os ydych yn teithio o Lanbedr Pont Steffan ar yr A485, cymerwch y tro i'r chwith (ar ôl pont gerrig) gan ddilyn yr arwydd i Lwyn-y-groes. Fel arall, ym mhentref Betws Bledrws, trowch i'r ffordd fechan gyferbyn â'r capel â'r blwch ffôn.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic

Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.