Ynglŷn â'r Ymddiriedolaeth

Sefydlwyd Shared Earth Trust yn 1987 yn ymateb uniongyrchol i'r dirywiad trychinebus mewn cynefinoedd bywyd gwyllt a bio-amrywiaeth yn y cefn gwlad amaethyddol. Fel mewn llawer i fferm arall, bu Fferm Denmark yn cael ei ffermio'n gynyddol ddwys, ac roedd ei meysydd rhygwellt a'i gwrychoedd moel yn nodweddiadol o eangderau maith o diroedd pori.

Defaid yn pori porfa fer o rygwellt

1987: “lle diffaith iawn ... fawr iawn o ddiddordeb o ran bywyd gwyllt” Dr Stephanie Tyler RSPB

Amcan yr Ymddiriedolaeth oedd gweld a oedd hi'n bosibl i wrth-droi'r broses hon o ddirywiad heb ymyrraeth na gwariant cyfalafol gormodol, a monitro pa mor gyflym ac i ba raddau roedd bywyd gwyllt yn dychwelyd. Trwy ail sefydlu dulliau mwy traddodiadol o bori a chynaeafu gwair, gwrth-droi draenio, atal y rhan fwyaf o wrteithiau, a ffensio o amgylch cloddiau oedd wedi eu gor-bori, nentydd a ffosydd ceisiwyd sbarduno'r prosesau naturiol.

Porfa gyfoethog mewn rhywogaethau, gyda sgriffiad cae a llain-gysgod o'i amgylch

1997: Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn barnu bod Fferm Denmark yn “warchodfa natur nodedig”

Bu'r canlyniadau yn syfrdanol:-

Mae hyn a data eraill o Fferm Denmark yn dangos yn glir ei bod hi'n bosibl gwrth-droi'r broses o dlodi ecolegol a distrywio bio-amrywiaeth, ac y gall hyn gael ei gyflawni mewn amser cymharol fyr.

Y peth mwyaf arwyddocaol o hyn i gyd yw ei fod wedi ei gyflawni heb fewnosod dim (ar wahân i goed a llwyni a blannwyd yn lleiniau-cysgod a choetir) a heb reolaeth ragnodol sy'n ffafrio un rhywogaeth yn fwy nag arall. Efallai mai hyn yw cyfraniad mwyaf allweddol yr Ymddiriedolaeth i gadwraeth cefn gwlad yn gyffredinol. Mae'n derbyn rôl Natur wrth ganiatáu i bob cynefin sefydlu ei drigolion a'i gymhlethdod ei hun, a'i we ei hun o fywyd yn ei amser ei hun.

Un o'r cyfranogwyr yn ein rhaglen Cysylltiadau Naturiol wrthi'n plethu brigau helyg

Bydd Cysylltiadau Naturiol yn cynnig gweithgareddau megis turnio coed, gwaith celf a phlethu brigau helyg

Cysylltiadau Naturiol

Gan adeiladu ar ei lwyddiant ym maes cadwraeth, mae'r Ymddiriedolaeth bellach yn datblygu ei gwaith gyda grwpiau cymunedol yng ngorllewin Cymru. Rydym yn cynnig gwarchodfa a chanolfan wych Fferm Denmark i ystod mor eang ag sy'n bosibl o bobl ar gyfer rhaglen newydd o weithgareddau a digwyddiadau o'r enw Cysylltiadau Naturiol.

Y nod yw helpu pobl o bob oedran a gallu i gysylltu o'r newydd â byd natur ac i helpu i feithrin gallu'r gymuned i ddysgu a rhannu sgiliau ymarferol mewn ffyrdd a fydd yn fuddiol i'r amgylchedd.

Mae'r pwyslais ar weithgareddau llawn hwyl y gall pobl gymryd rhan ynddynt ac sy'n dod â phobl at ei gilydd i hybu gofalu am adnoddau naturiol. Rydym am gynnwys yn benodol y rheini sydd dan anfantais neu sydd ag anghenion arbennig. Byddwn yn falch iawn o glywed gan unrhyw fudiadau cymunedol er mwyn trafod syniadau am weithio gyda'n gilydd.

Llwyddiannau eraill

Gallwch chi ein cefnogi ni yn ein camau nesaf i adfer bio-amrywiaeth cefn gwlad Prydain. Gweler Aelodaeth/Cyfrannu.