Newyddion

Mae Fferm Denmark wedi ei lleoli yn agos i Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru. Edrychwch am ein manylion cyswllt a gwybodaeth am ein lleoliad.

Shared Earth Trust yn Fferm Denmark – prosiect cadwraeth unigryw sy'n arwain y ffordd o ran adfer bioamrywiaeth i gefn gwlad amaethyddol Prydain

Cae gwair ar Fferm Denmark yn yr haf yn dangos brithwaith o flodau gwyllt, a mannau brwynog gwlypach

Yn seiliedig ar ei hastudiaeth achos unigryw ar Fferm Denmark, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn arwain y ffordd o ran adfer cynefinoedd bywyd gwyllt ar dir amaeth oddi ar 1987.

Mae ein hastudiaethau yn ymestyn dros glytwaith integredig Fferm Denmark lle adferwyd cynefinoedd gweirgloddiau, gwlyptiroedd, coedwigoedd, a thir prysg, ynghyd â'u fflora a'u ffawna.

Yn cydredeg â'r astudiaeth achos, rydym wedi datblygu rhaglen hyfforddi ac allgyrraedd arbennig, ac wedi cynhyrchu ystod o gyhoeddiadau er mwyn:-

  • rhannu ein profiad a'n harbenigedd, a chynnig cyfarwyddyd ymarferol;
  • galluogi unrhyw dirfeddiannwr neu ffermwr, boed fawr neu fach, i gymryd mesurau cadwraethol isel eu cost ac isel eu hymyrraeth, yn ôl eu hamgylchiadau a chyflwr y safleoedd;
  • cynorthwyo i ddatblygu rhwydwaith cynyddol o dirfeddianwyr a ffermwyr sydd yn rhannu eu profiadau ac yn dysgu oddi wrthynt.
Sgriffiad bach, bas mewn cae gyda brwyn a rhywogaethau cynefin gwlyb eraill

Mae sgriffiadau yn elfen bwysig yn yr ystod o gynefinoedd

Mae Fferm Denmark hefyd yn ganolfan ymwelwyr ac yn adnodd grŵp cymunedol gyda dewis eang o lety a chyfleusterau ar gael i'w llogi gydol y flwyddyn:-

  • yn lle i fudiadau ar gyfer eu gweithgareddau a'u digwyddiadau eu hunain;
  • yn ganolfan ar gyfer darganfod amrywiaeth eang bywyd gwyllt a chefn gwlad Gorllewin Cymru
  • neu yn syml yn encilfa wledig er mwyn adfywhau'r meddwl, y corff a'r enaid.

Tynnwyd pob llun gan Neil Taylor, Neil Smith, Nick Hedges, Mike Abrahams a Robert McLelland.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd y wefan hon gan Syntactic

“I mi mae'r Shared Earth Trust wedi bod yn fflam o obaith; mae ei phrosiect ar Fferm Denmark wedi profi ei bod hi'n bosibl dadwneud peth o'r distryw amgylcheddol sydd yn peryglu'n byd.”
Jonathon Porritt, Fforwm ar gyfer y Dyfodol, a Noddwr Shared Earth Trust

“Mae yna o hyd ddiffyg gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â sut orau i hybu cynnydd mewn bio-amrywiaeth ar dir amaeth. Mae Fferm Denmark yn un o'r ychydig lefydd sydd yn cynnal gwaith o'r fath ar sylfaen gynhwysfawr a gwyddonol.”
Tim Stowe, RSPB Cymru

Cynhyrchwyd gyda chefnogaeth Bwrdd Yr Aith Gymraeg

Mae'r ddogfen hon wedi'i chymryd o wefan y Shared Earth Trust, http://www.shared-earth-trust.org.uk . Gellir cysylltu â'r Ymddiriedolaeth ar 01570 493358.